Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 22, 2015

O’r Ardd: Ffrwythau’r Gaeaf

Ffrwythau wedi’u cadw oedd ffrwythau gaeafau fy mhlentyndod – wedi eu rhesu’n dwt ar silffoedd y sied, wedi eu rhewi, neu’u sychu, neu eu trawsnewid yn gyffaith neu’n surop. (Oes gair gwell na surop? achos yn bendant dydyn nhw ddim yn sur.)

Ond nawr ein bod ni yma yn nwyrain Asturias, mae gyda ni ffrwythau rownd y rîl. Yr wyf i wrthi ar hyn o bryd yn prosesu’r kaki

IMG_0398

 

Byddwn yn bwyta rhai yn ffres: aros nes eu bod nhw mor feddal rwyt ti’n dechrau meddwl eu bod nhw’n pydru, a thipyn yn gochach na’r rhai yn y llun, torri’r pen gyda chyllell a bwyta’r tu fewn â llwy. Mae’r croen wedi cael marciau tywyll, ond tu fewn maen nhw’n berffaith.

Eleni mae cymaint i gael, rwyf yn gwneud saws (ar gyfer partneru hufen iâ dros yr haf) a stwnsh i’w defnyddio mewn pwdinau gyda hufen neu gaws ffres.

IMG_0400 - Version 2

 

Mae’r lemwns yn barod bob dydd o’r flwyddyn. Nid felly yr orennau eleni: fel arfer byddwn yn eu casglu nhw at sudd yn ystod mis Ionawr ond dal yn las y maen nhw.  Mae wedi bod yn gyfnod oer a gwlyb dros y mis diwethaf, ac mae’r ffrwythau’n cwato dan dail y coed. Pigo mâs rhwng cawodydd byddaf i gymryd lemwn pan fydd ei angen – at  stecen eog heno neu er mwyn glanhau’r stafell ymolchi. Mae sudd lemwn yn cael gwared yr olion calch o gwmpas y tapiau mewn dim o amser.

Y broblem i ni fel garddwyr yw na allwn ni wneud fawr ddim yn y lluarth am ei bod hi mor wlyb. Ond gyda lwc fe wellith pethau’r wythnos nesaf.

Nodyn i’r sawl sy’n chwilio am fwy ar y daith i Batagonia: ar ochr dde y dudalen, reit i lawr o dan ‘llefydd diddorol’ mae ‘cofnodion cynt’ – cyfle i ddewis mis o gofnodion. Mae rhai Patagonia i gyd yn ystod misoedd Tachwedd a Rhagfyr 2014 ac Ionawr 2015.

 

 

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: