Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 12, 2015

O’r Berllan: Diogelu

Mae nifer y coed ffrwythau’n cynyddu drwy’r amser, yn enwedig nawr bod mwy o dir gyda ni. Nid bob un sy’n llwyddo: mae cyfeilles wedi addo bricyllen newydd imi ar ôl  i ddwy farw. Mae’n dod wrth ei chwaer yng nghyfraith yn Caceres, yn bell i’r de ac yng nghanol y meseta – cawn weld sut wneith hi. O dipyn i beth rydym yn dysgu gofalu am y coed, tocio, bwydo a dwrhau pan fydd angen.

P1180272

Ar ôl sioc yr eira, mae’r goeden lemwn hon, a’r coed sitrig i gyd, wedi cael bwceded o ddŵr yn sefyll oddi tanyn nhw rhag y rhew. Mae’r tywydd wedi gwella, ond dim ond ganol y Mis Bach yw hi. Eto, rhaid edrych tua’r gwanwyn.

P1180270

 

Bydd y nectarîn a’i theulu (eirin gwlanog) wastad yn dioddef gan ryw greadur neu ffwng sy’n gadael y dail yn goch ac yn grychau i gyd. Bydd y ffrwyth yn fach ac yn galed – anfwytadwy. Eleni, ar ôl tocio, cliriais i rownd y goeden, dodi haenen dda o gompost o’r ardd, ac wedyn llond bwced o ludw. Wedi cael ar ddeall y bydd hyn yn helpu i’w gwarchod.

A dyma’r coed eirin Claudia. Gwael iawn y llynedd, llond dwrn o ffrwyth rhyngddyn nhw. Tocio cryf eleni, ac yna clirio a gorchuddio’r cylch pridd â chompost.

P1180282

Y math o waith fydd, gobeithio yn dwyn ffrwyth! Ac mae llawer mwy o goed eisiau’r un driniaeth.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: