Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 25, 2015

Coed Hen a Newydd

A fydd 2015 yn flwyddyn dda i’r cnau cyll? Mae’r cynffonau ŵyn bach yn niferus iawn.

P1180320

Cefn Bolahaul, y cae newydd, yw hwn. Coed cyll heb eu trin ers oesoedd, gydag ewcaliptus y tu ôl iddyn nhw ar y graig, a choeden cnau Ffrengig yn dal yn noeth wrth eu hochor. Felly beth sydd rhaid imi ddysgu nawr yw hyn: oes rhaid tocio coed cyll er mwyn cael cnau? Neu dim ond er mwyn cael ffyn a physt mae gwneud hynny?

A dyma arbrawf:

P1180308

Dwy binwydden, o fath arbennig, pinus pinea, y math sy’n cynhyrchu cnau pîn bwytadwy. Maen nhw’n dal i fod yn eu potau oherwydd nad yw’r man plannu’n barod iddyn nhw. Lle agored sydd angen, yn llygad yr haul, a dim ots am sychder nag oerfel. Yn ôl y sôn bydd rhain yn tyfu i fod yn 12m o daldra ac 8m o led – ond y cwestiwn mawr yw, a fyddwn ni’n casglu cnau pîn o fewn y pum mlynedd nesaf?

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: