Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 5, 2015

O’r Berllan: Eirin Gwlanog

Does dim coeden eirinen wlanog gyda ni, ond aros funud imi gael esbonio. Bydd rhai’n cofio fy mod i wedi bod yn ceisio arbed y nectarina (sy’n perthyn i deulu’r eirin gwlanog) rhag y pla sydd wedi distrywop’r dail a’r ffrwyth. Ddeufis yn ôl, cafodd y goeden carped o ludw coed tân o’i hamgylch.

P1180347

Ac yn wir mae yn edrych yn well. Mae mwy o flodau nag a welais i ers blynyddoedd a’r dail hyd yn hyn yn las ac yn llyfn. Hwre!

Aelod arall o’r teulu yw’r piesco, neu priesgu fel mae’n cael ei ynganu ffor hyn. Mae hon yn dwyn ffrwyth tebyg iawn i eirin gwlanog ond llawer yn llai. Mae’n tyfu ar ochr heol, neu mewn llecyn caregog, ac mae’r blodau’r un mor bert.

P1180351 - Version 2

Mae’r brocoli piws yn dod i’r ford bron bob dydd yn awr, a’r ffa llydan o fewn dyddiau o fod yn barod. Ond mae rhyw wynt oer cas wedi codi o rywle, gobeithio na fydd yn cael gormod o effaith arnyn nhw. Mae’n cymydog hael ni wedi aredig y cae newydd, felly yr wythnos nesaf bydd plannu mawr: tato a ffa.


Responses

  1. Mae#r coed ffrwythau’n cael lludw coed tân yma hefyd. Rwyt ti ymhell ar y blaen i mi efo dy hau, ond mae’r tywydd yn braf yr wythnos hon, ac mi gawn gyfle i gael trefn ar y ty gwydr o’r diwedd!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: