Un o’m hoff bysgod yw’r cegddu – sy’n beth da, achos mae’n boblogaidd iawn fan hyn yn Asturias a wastad ar y fan pan fydd y dyn pysgod yn galw fore dydd Mawrth. Y ffordd draddodiadol yw coginio’r cegddu – yn stecen, neu rodajas – mewn ffrimpan gyda digon o olew, gwin, stoc, cregyn bylchog a phersli.
Roeddwn i fel arfer yn dechrau drwy edrych ar beth oedd gyda fi. Yn y rhewgell, 400ml o stoc pysgod (maelgi, i fod yn fanwl, wedi ei wneud mewn seidr cartref), Ac yn yr oergell, twbed o fara lawr wedi dod yr holl ffordd o farchnad Caerfyrddin. Dim cregyn bylchog. A dyma beth wnes i.
Cynhwysion y Saws:
6 sialotsen, llwyaid fach o flawd, llwyaid ychydig yn fwy o olew. Y stoc a’r bara lawr.
Torri’r sialots yn fân, a’u ffrio’n araf yn yr olew nes eu bod yn feddal. Ychwanegu’r blawd, a’u droi. Ychwanegu’r stoc, dod â’r cwbl i bwynt berwi a’u adael ar dân isel i leihau rywfaint. Ychwanegu’r bara lawr (rhyw 200g oedd yn y twb). Troi eto.
Golchi’r pysgod a’u sychu’n net. Gwresogi llwyaid arall o olew mewn ffrimpan digon o faint i ddal y stêcs wrth ymyl ei gilydd. Ar dân canolig, ffrio nhw am ryw 2 funud bob ochr, ac yna ychwanegu’r saws o’u hamgylch, nes ei fod yn cyrraedd lefel y pysgod ond heb eu gorchuddio. 5-7 munud ar un ochr, ychydig yn llai ar y llall, eto ar dân canol/isel fel na fydd y saws yn berwi gormod. A dyna fe.
Joiwch.
Rysait arall ar gyfer cegddu fan hyn .
A chwestiwn: ai bara lawr yw’r enw iawn cyn ei gymysgu â’r blawd ceirch? Neu ‘lawr’ yw e’nsyml? Bara lawr imi am y ddau, ond amheuaeth wedi dechrau.
Gadael Ymateb