Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 24, 2015

O’r Berllan: Arbrofion Lu

Rwyf i wedi bod yn esgeuluso’r blog yn diweddar. Yr hindda sydd wedi ein galluogi i weithio bob awr yn y lluarth, a chymdogion wedi bod wrthi’n trefnu digwyddiadau gyda’r nos!
Ond rwyf i wedi bod yn tynnu lluniau o’r gwaith, felly dyma rai o’r uchafbwyntiau.

P1180380

Un o’r ddwy goeden pîn yw hon, o’r diwedd yn ei lle priodol yn y cae newydd. Pinus pinea yw ei henw Lladin, a’r gobaith yw y bydd o fewn ychydig o flynyddoedd yn dwyn cnau pîn, yn awr eu bod nhw wedi mynd mor ddrud i’w prynu. Mae dros ei 3m o uchder yn barod, ond dyw hynny’n ddim: bydd coeden aeddfed yn cyrraedd 20m o daldra a 12m o led. Sgwn i a welaf y pinwydd yn tyfu mor dal?

P1180439

A dyma’r ddwy nesaf! Coeden almwns a ges i gan gyfeilles, a choeden leim (wedi suddo i’r pridd yn ei phot, achos bydd yn cael ei symud i ardd y coed sitrig pan fydd y tir wedi ei baratoi.) Rydym ni wedi arbrofi gyda choeden almwns o’r blaen, ond mewn man llawer llai cysgodol, a bu farw ar ôl dwy flynedd. Fan hyn, mae rhwng y graig, y wal, ffigysbren enfawr a thŷ gwydr, ond yn gwynebu’r de ac yn cael digon o haul. Dim esgus felly!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: