Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 14, 2015

O’r Bierzo: Gwin Bach ‘To

Er cymaint yr oeddwn yn canmol gwin Luzdivina Amigo, esgeulus fyddai anwybyddu’r llu o winllannau a chynhyrchwyr da eraill sydd yn gweithio yn ardal y Bierzo.

Mae’r rhan fwyaf yn canolbwyntio ar y Mencía a’r Godello, ond bob tro byddwn ni’n mynd yno mae mwy o arbrofi, a’r broses gwneud gwin wedi ei foderneiddio. Dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl, y drefn oedd cyrraedd y bodega gyda’ch poteli a chael eu llenwi o dap y gasgen. (Chi dal yn gallu gwneud hyn mewn llefydd eraill yn León, fel Valdevimbre.)

P1180559

Un bodega sy’n hawdd iawn dod o hyd iddi yw Luna Beberide, ar gyrion tref Cacabelos, hen ganolfan y busnes gwin yma. Mae ar yr hen heol i Villafranca – dim ond croesi’r bont, heibio i hen wasg grawnwin a hostel y pererinion, ac mewn dim o amser fe welir warws enfawr ar y chwith. Cer i fewn, mae’r swyddfa a’r ford fach ar gyfer blasu ar y dde. Mae’r Godello yn arbennig, ond maen nhw hefyd yn cynhyrchu un o’m ffefrynnau, gewurtztraminer, a gwin melys o’r grawnwin Petit Manseng. Mae’n rhaid gadael y ffrwyth i sychu ar y planhigyn er mwyn gwneud yr un olaf.

Nôl mâs i’r heol, eto i gyfeiriad Villafranca, nes gweld yr arwydd Valtuille de Abajo i’r chwith. Ar y dde, mae Valtuille de Arriba – eto heb fynd i ddarganfod pa drysorau sydd yno. Mae bodega Castro Ventosa yn Valtuille de Abajo – wrth gyrraedd y ‘sgwâr’ rhaid troi i’r chwith, ymlaen heibio’r eglwys ac i’r chwith eto. Eu ‘traminer’ nhw oedd y cyntaf imi ei flasu o’r ardal ac mae’n dal yn werth ei brynu. Byddwn ni hefyd wastod yn prynu Mencía yma. Daw enw’r bodega o hen gaer Rhufeinig (ac Astwraidd cyn hynny pan oedd llwyth yr Astures yn ymledu dros ardal fawr). Hyd yn oed ar ben y gaer, y tu fewn i’r wal fawr, oedd gwinllan – tan yn ddiweddar iawn. Ond mae’r planhigion i gyd wedi mynd, er mwyn i’r archaeolegwyr balu rywfaint yn y tir.

Bydd angen tipyn o Sbaeneg arnat ti i gael y profiad gorau o ymweld â’r bodegas – ychydig iawn o Saesneg sy’n cael ei siarad. Ond bydd e werth e. Iechyd da!


Responses

  1. Da gweld un o winoedd CastroVentosa yn yr Observer http://www.theguardian.com/lifeandstyle/2015/jun/21/40-best-summer-drinks-red-wine


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: