Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 27, 2015

O’r Ardd: Munud i Edrych Arno

Yn rhy aml rydym yn rhedeg yn syth o un dasg i’r nesaf heb gymryd seibiant i feddwl am y cyfanrwydd. Dyma’r cae heddiw, y cae a brynsom ni flwyddyn yn ôl:

P1180668

Llai na chwarter y cae a dweud y gwir, ond y rhan sydd wedi cael fwyaf o waith. Yn y cefn, 2 danc dŵr. Bydd y cyflenwad yn dod o’r to i danc wrth y tŷ, a phan bydd hwnnw’n llawn, ei drosglwyddo mewn pibell dros yr heol fach sydd rhwng yr ardd a’r cae. 2000l i gyd. Dylai fod yn ddigon hyd yn oed mewn cyfnod o sychder hafol.

Wrth y ffens, mafon ifanc, a’r ochr arall o’r chwith i’r dde: merllys (angen ei docio), gwsberis, a chwrens duon. Tu ôl i’r merllys, mefus, sydd wedi bod yn ardderchog eleni. Malweena yw enw’r math yma, blas da iawn arnyn nhw yn enwedig o’u gadael i aeedfedu ar y planhigyn, ac rydym ni wedi bod yn bwyta nhw ers 6 wythnos!

Y tu ôl i’r rheiny, chwith i dde eto, Indiacorn bach iawn, tato, a’r polion ar gyfer y tomatos, sydd hefyd yn fach iawn ar hyn o bryd. Yn y cefn, wynwns. Mae’r garlleg eisoes wedi ei godi.

P1180670

Ac i’r gorllewin o’r rhan gyntaf, y coed ffrwythau: pinwydd, coed eirin a gellyg. Wedyn polion y ffa tal, rhwydi i’r ffa cwta, a gwelyau’r bresych, pwmpenni, a mwy o dato. Falle bydd angen mwy o ddŵr wedi’r cwbwl. Mae rhestru’r cwbl yn codi syched arna’i. Gwin neu seidr?


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: