Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 30, 2015

Ni a Nhw

Ond yw hi’n rhyfedd fel y bydd llywodraethau adain dde, neu dde-canol fel maen nhw’n hoffi cael eu galw, yn siarad cymaint am ryddid yr unigolyn ac yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gyfyngu ar y rhyddid hwnnw?

O ‘fory ymlaen yn Sbaen, bydd deddf newydd yn dod i rym, deddf sy’n dwyn yr enw Diogelwch y Dinesydd. Ar lawr gwlad, la Ley Mordaza, Deddf Tagu Barn.

O ‘fory ymlaen, fe fydd yn drosedd tynnu llun plismon yn ystod gwrthdystiad. Neu yn fanwl gywir, bydd yn drosedd defnyddio’r llun mewn ffordd gyhoeddus, e.e. er mwyn dangos bod plismon yn ymddwyn yn dreisiol tuag at brotestwyr.

Bydd yn drosedd dringo i fan uchel mewn adeilad er mwyn protestio. Deddf Greenpeace, efallai.

Bydd yn drosedd rhwystro’r beiliaid rhag towlu pobl o’u cartref am fethu talu’r morgais. Daeth maeres newydd Barcelona, Ada Colau, yn weithgar ym mynd gwleidyddiaeth drwy ymgyrchu yn erbyn y desahucios. Ond mae’r PP, sy’n dal i lywodraethu ar lefel Sbeinig, yn rhoi’r ymgyrchwyr hynny yn yr un cawell ag ETA a therfysgwyr eraill.

Bydd yn drosedd gwrthod gadael protest (heddychlon, hyd yn oed) pan fydd plismon yn dweud wrthyt am wneud hynny.

A bydd yn drosedd cynnal protest y tu fâs i’r Senedd – hyd yn oed pan na fydd neb o’r gwleidyddion yno!

O feddwl cymaint o wrthdystio sydd yn Sbaen, a’i fod yn aml yn ddigon ffyrnig, rwy’n amau y bydd y llysoedd yn llawn am flynyddoedd i ddod.


Responses

  1. Newydd sylwi ar un arall: mynegi barn yn erbyn Coron Sbaen ar rwydweithiau cymdeithasol! Trosedd!

    • waw: stincar!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: