Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 27, 2015

O’r Ardd: Ganol Haf

Hen bryd imi restru llwyddiant a ffaeleddau’r lluarth. Dyma’r ail flwyddyn yn olynol lle mae’r tywydd ar arfordir Asturias wedi bod yn sych am gyfnod hir – bron i ddeufis yn barod, a dim ond ambell i ddiwrnod o law. Ac eleni mae’r tymheredd yn uwcg na’r llynedd a llai o gymylau.  Mae hyn yn golygu bod rhaid dwfrhau bron yn ddyddiol, yn enwedig nes bod y planhigion wedi cael eu traed danyn nhw.

Mae gyda ni ddau danc ym mhen y cae nawr, 1000 litr yr un, a phan fydd y pibelli i gyd i fewn fe fyddan nhw’n cael eu llenwi o ddŵr y to. Bwcedi, neu boteli dŵr mawr, yw hi wedyn a cherdded ar hyd y rhesi. Er y sychder, mae gwlith bob bore, ac o balu ryw 20cm i lawr fe weli di bridd a mwy o lleithder ynddo – y clai sylfaenol.

Darfod wnaeth y mefus ar ôl tymor o 6 wythnos ffrwythlon iawn, ac mae’r cwrens duon heddiw naill ai mewn potiau cyffaith neu yr y rhewgelll. Tro’r llysiau yw hi: sbigoglys , corbwmpenni, letys ac wrth gwrs y tato. Am unwaith, ac er gwaetha’r tywydd sych, mae’r sbigoglys yn cynhyrchu dail un ar ôl y llall yn lle ruthro i flaguro.

P1180738

A dydyn nhw ddim yn troi’n slwts yn y sosban chwaith. Byddaf i naill ai yn eu gwresogi gyda’r dŵr sy’n aros ar y dail ar ôl eu golchi, dim mwy na 2 funud, neu yn gwneud hynny am funud, wedi ei torri’n fân, ac yna eu hychwanegu at ffrimpan o arlleg a chnau pîn.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: