Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 31, 2015

Glaw, a Chroeso Iddo

Daeth diwedd ar y sychder. Yn ystod y ddeuddydd diwethaf rydym ni wedi casglu 1,500 liter o’r to i’r tanc mawr, ac ychydig yn fwy i’r un bach wrth ymyl yr ardd flodau. Mae 1000 liter yn barod wedi ei drosglwyddo i danciau’r cae, ac mae’r pridd fel cors felly dylem ni fod yn iawn tan fis Medi. Clai yw’r isbridd felly bydd hwnnw’n dal ei afael ar y lleithder am gyfnod.

Yn y tŷ gwydr (plastig) y bûm i’n gweithio, yn trawsblannu’r brenhinllys. Roedd y trueiniaid wedi bod yn eu potiau yn ddwfn yn y pridd ers deufis oherwydd y gwaith oedd angen ar y tŷ gwydr, ond yn awr maen nhw yn eu lle priodol.

brenhinllys

brenhinllys

Agor ffos gyda chaib fach, dwrhau, trawsblannu fesul dau, gan ddwrhau eto, cau’r ffos. Ac edrych ymlaen at flychau bach o pesto yn llenwi’r rhewgell.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: