Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 16, 2015

O’r Ardd: y Berllan

Gyda thraul yr haf mae ychydig o amser gyda ni i fwynhau’r ardd yn lle rhuthro o un dasg i’r llall. Er enghfraifft, yr wyf yn hyderus y byddwn yn gweithio seidr eleni

afalau seidr Asturias

afalau seidr Asturias

oherwydd mae’r coed yn drwm gan gynhaeaf. Crefft y peth yw cael y cymysgedd iawn o afalau chwerw, afalau sur, ac afalau melys er mwyn cael blas ac asidedd y ddiod yn fwynder ar y tafod. Mae pobl yn aros i’r afalau seidr i gwympo, dim ots am y cleisio. Bydd afalau i’r ford yn cael eu pigo’n unigol. A rhywbryd ym mis Hydref, fe fydd y gwaith o stwnso a gwasgu yn dechrau o ddifri.

Mae rhai’n dweud bod coed ffrwythau’n cynaeafu’n dda bob yn ail flwyddyn. O edrych dim ond ar llynedd ac eleni, mae hynny’n wir. Llynedd, cnau Ffrengig hyd at syrffed, hanner dwsin o afalau a llai fyth ar goed y gellyg. Eleni, llawer llai o gnau, y gellyg yr un mor niferus â’r afalau

P1180827

Williams yw’r rhain; mae’r Conferencia eisoes wedi eu torri’m ofalus a’u dodi mewn man tywyll. Fel arall byddan nhw i gyd yn barod ar unwaith.

Nodyn trist o resi’r mafon. Pryfed y mafon wedi troi lan am y tro cyntaf. Mae rhain yn dodwy yn y ffrwyth a’u difetha. Bu’n rhaid imi dorri pob un sbrigyn ffrwythlon a’u llosgi. Ond rwyf i wedi bod yn darllen am declyn bach sy’n defnyddio fferonomau i ddenu’r pryfed, fel bod y garddwr yn cael gwybod ymlaen llaw eu bod nhw ar gyrraedd. Wedyn bydd rhaid eu lladd nhw rywsut. Unrhyw syniadau?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: