Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 31, 2015

Y Lôn Goed

Na dim byd am Asturias, na garddio, na fiestas.

Yn ystod taith i weld fy chwegr yng ngogledd Cymru, penderfynonasom ni’n tri fynd i gerdded rhan o’r Lôn Goed. Dim i gyd, mae Mair yn hen ac er ei bod yn cerdded yn iawn, well ganddi palmentydd na mwd.

Chwilio ar y we i weld sut i gyrraedd, ond doedd y gwefannau ddim yn cytuno – h.y. siarad am ddarnau gwahanol o’r Lôn Goed oedden nhw. Gofyn drwy drydar, a chael 2 ateb da, gan @1NoraJonesa @MartynCymraeg. Dilyn yr heol fawr o Gricieth, mynd heibio Llanystumdwy, a throi i’r dde ar ôl garej y Pandy. neu ‘Evans Camping and Caravans’ mewn llythrennau breision.

Mae’r Lôn Goed yn croesi’r heol fach cyn cyrraedd Chwilog. Hyd yn oed wedyn, rhaid bod yn effro achos does dim arwydd ar y ffordd, dim ond un pren rownd y gornel yn y lôn ei hunan.

Troesom tua’r gogledd, ar ran gydag arwynebedd tarmac.

P1180835Neb o gwmpas. Tawelwch llwyr (ac yn ddigon rhyfedd, dim lot o drydar adar). Ar ôl canllath, diwedd y tarmac. Cerdded ar laswellt.

y Lôn Goed ffoto:cathasturias

y Lôn Goed ffoto:cathasturias

Codwyd y lôn er mwyn cario calch o’r odyn yn Afonwen i’r ffermydd cyfagos. Ac rwy’n dweud ‘codi’ oherwydd y clirio, a’r sylfaen caled trwchus sydd iddi.Yn ystod y 18fed ganrif, pan oedd tir comin yn cael ei ddwyn gan y stadau mawr a’i droi’n gaeau, daeth yn arfer gwella’r tir drwy ledaenu calch arno er mwyn ei wneud yn llai asidig. Byddai dynion, ceffylau a cherti wedi troedio’r lôn goed ddydd ar ôl ei gilydd.

Mae’r hanes felly braidd yn wahanol i gerdd adnabyddus Williams Parry a’i ‘lonydd gorffenedig.’  Nid wedi gorffen yn yr ystyr o wedi perffeithio mae’r lôn, ond wedi colli ei phrif bwrpas. A dyma hi ar ôl bron i ddwy ganrif a’r coed yn eu hanterth. Pob math o goed: deri yw’r mwyaf lluosog oddeutu’r darn yma, ond mae hefyd ynn, ffawydd, digonedd o gelyn ac ambell i gollen wedi sleifio i fewn dros y blynyddoedd.

Cantre'r Gwaelod o'r Lôn Goed

Cantre’r Gwaelod o’r Lôn Goed

Ac oddi yno, bron na fedri di weld Cantre’r Gwaelod yng ngwyrddlesni Bae Ceredigion. Lle diddorol a deniadol i dreulio prynhawn, a rhaid inni fynd yn ôl i gerdded y daith gyfan.

Gwefan dda: http://cyngorllanystumdwycouncil.org/llwybrau.html gyda map o’r llwybr y gellir chwyddo i faint llawn.

A ffaith fach arall: petawn i’n gallu teithio drwy amser, byddwn i wedi gallu mynd yn syth o Borthaethwy, lle roeddem ni’n aros, i Afonwen mewn trên! Caewyd y lein yn 60au’r ganrif ddiwethaf.

Advertisements

Responses

  1. Chwegr: gair da! Er yn byw mor agos, fues i erioed ar y Lôn Goed oherwydd ei bod yn anodd gweld lle i ddechrau arni.. diolch am ddolen Llan’stumdwy.

    • Chwegr yn debyg iawn i’r Sbaeneg: suegro, suegra. Edrych mlaen i glywed dy hanes di ar y Lôn Goed


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: