Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 13, 2015

O’r Ardd: Gorffen Haf

Dechrau mis Medi, dechrau tymor ysgolion, fu diwedd yr haf imi erioed. Nid felly yn yr hen galendr wrth gwrs, ac mae digon o hen wladwyr o gwmpas fan hyn yn nwyrain Asturias fyddai’n cytuno bod Awst yn ddechrau hydref.

Fel arfer, mae rhai pethau wedi bod yn llwyddiant eleni, ac eraill wedi methu mewn ffordd amlwg iawn.

P1180856

Y tomatos, er enghraifft, wedi cael y blight . Pob un ond y rhai bychain. Roedden nhw’n edrych yn dda iwn pan aethom ni bant, tair wythnos wedyn wedi eu distrywio. Trist o beth yw eu torri nhw a chario’r planhigion i’w difa. Fydddwn ni ddim yn meiddio rhoi nhw yn y compost rhag ofn bod y ffwng yn fyw ac yn goroesi yn y gwres.

P1180852

Ond y brenhinllys! Wel sdim ond rhaid dodi’r llun. Mae’r tŷ plastig yn llawn. Rwyf i wedi cynaeafu’r dail dair gwaith erbyn hyn, a dod yn ôl y maen nhw. Yn y rhewgell mae dros kilo o  pesto  mewn blychau bach 100g.

Ciwcymber, betys, corbwmpenni a berenjena i gyd wedi gwneud yn dda. Ond y mafon wedi gorfod mynd yr un ffordd â’r tomatos, i’r tân. Pry’r mafon wedi cael hyd iddyn nhw (ar ôl 5 mlynedd!) ac wedi dodwy ym mhob ffrwyth.

Yr wynwns a’r garlleg yn barod i fynd i’r storfa gyda’r tato, ond y ffa mawr heb aeddfedu eto – mis arall efallai.

Gellyg ac afalau yn lluosog iawn a’r clesin yn troi’n felyn.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: