Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 8, 2015

Haf Bach Mihangel

28C ym mis Hydref! Mae gŵyl Mihangel Sant wedi pasio ers dros wythnos ond mae’r tywydd sy’n dwyn ei enw yn dal i wenu as Asturias, a’r penrhyn Iberaidd yn gyffredinol.

Heb gynnau tân eto, na thynnu’r dillad gaeaf o’u lle cadw. Ond ar y llaw arall, yn gorfod bod tu fewn, yn gaeth i’r gegin, yn paratoi llysiau a ffrwythau ar gyfer eu cadw nhw. A’r prynhawn yma, cwymp yn nhymheredd yr awyr,  yr hydref wedi cyrraedd.

P1180931

Mae’r sachau afalau’n llenwi ar gyfer y seidr, ond anfodlon dod o’r goeden mae rhan helaeth o’r ffrwyth.  Mae’r clesin eisoes yn gyffaith, a’r ffigys hefyd. (Heblaw am y rhai sydd wedi eu sychu, neu wedi eu troi’n hufen iâ.) Cafodd y mefus a’r mafon un tro bach arall, ond mae’r gwlith yn ormod iddyn nhw.

Betys aur a phwmpen fyddwn ni’n bwyta drwy’r gaeaf, os na lwyddwn ni i roi rhai yn anrhegion. A heddiw daeth y ffa i fewn, i hongian ar y corredor (balconi) i sychu. Mae’r pupurod angen eu casglu, a’r olaf o’r piwsod (gair newydd am aubergines: piwsyn, piwsod, sylwadau?)

P1180925

A does dim lle i eistedd achos mae’r cnau Ffrengig wedi ei gymryd i gyd! Cyn bo hir byddan nhw’n symud i’r stafell sbâr felly fydd ddim lle i ymwelwyr gysgu.


Responses

  1. Aubergine yw wylys, planhigyn wy.

    • Iawn, dyna beth sydd yn y geiriadur, ond mae’n air mor hyll! Ac mae’r llysieuyn mor flasus, nae’n haeddu enw gwell. Dyma gynnig arni.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: