Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 15, 2015

Haf Bach Sant Martin

Mae dau haf bach i gael yn Asturias: hwnnw ym mis Medi sy’n fwy cyfarwydd yng Nghymru ac yn dwyn enw Mihangel Sant, ac un arall yng nghanol mis Tachwedd oddeutu gŵyl Sant Martin (11eg). A bois bach mae hwn wedi bod yn haf gwerth ei gael eleni. Cerdded o gwmpas mewn sandalau a llewys byr – mae rhai hyd yn oed wedi bod yn ymdrochi, yn yr Iwerydd!

Roedd y coed cnau Ffrengig eisoes wedi colli eu dail cyn y tywydd twym. Nhw yw’r cyntaf fel arfer, a nhwythau hefyd sydd â’r dail mwyaf, a’r mwyaf ohonynt. Heddiw, gan eu bod nhw’n dal yn sych er gwaetha’r gwlith trwm, es i ati i gario llwythi i gornel y cae i droi’n deilbridd.

P1180969Mae cymaint â hynny i ddod eto. Ond gwaith yfory, efallai, fydd e.

Newyddion eraill: bydd seidr eleni.

P1180986

Mae angen 100kg o afalau i wneud 60 liter o sudd – digon i lenwi’r gasgen. Nawr bydd y gwaith yn dechrau: golchi, torri’n fân, gwasgu. Mae gan bawb lawer o afalau eleni, y cnwd yn drwm, a’r pris i’r rhai sy’n gwerthu wedi disgyn i 27c y kilo. Llawer o bobl wedi dewis gadael y ffrwyth lle maen nhw. fframwaith y wasg yw hwnnw yng nghanol y llun, gyda llaw.

Yn ôl pobl y tywydd, bydd yr haf bach yn parhau tan ddiwedd yr wythnos. Tybed a gewn ni sioc wedyn?


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: