Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 26, 2015

Sbaen, ISIS, Etholiad

Llai na mis i fynd tan etholiad cyffredinol llywodraeth Sbaen, ac mae’r prif weinidog Mariano Rajoy yn gwneud ei orau glas i ohirio penderfyniad ar ddanfon milwyr Sbeinig i helpu Ffrainc ar ôl yr ymosodiadau.

Nid bomio Siria sydd mewn golwg yma, ond hala dynion a menywod i Affrica, i gymryd lle unedau byddin Ffrainc fydd wedyn yn gallu mynd gartre i warchod ffiniau’r famwlad. Dywed pobl Rajoy ‘nad yw Ffrainc wedi gofyn dim byd yn uniongyrchol eto’ – ond mae Angela Merkel wedi cyhoeddi o fewn yr oriau diwethaf y bydd yr Almaen yn danfon dros 600 i Mali i gyflawni tasgau’r Ffrancwyr yno. A hynny heb aros am wahoddiad pendant.

Pam yr oedi felly? Ymddangosodd straeon yn y prif gyfryngau yn awgrymu bod y peth wedi ei gytuno, ond y diwrnod wedyn roedd popeth ar chwâl. Mae’n debyg nad oedd Rajoy wedi crybwyll danfon milwyr pan siaradodd g arweinwyr y pleidiau mawr eraill drannoeth ymosodiadau Paris, a nhwythau wedi awgrymu felly na fyddent yn ei gefnogi. Os yw Cameron yn y DU yn awyddus i gael mwyafrif o’i blaid cyn bomio, mae Rajoy hyd yn oed yn fwy eiddgar, gyda’r etholiad yn nesau. Ar ôl gweld bomio Bamako, mae’n siŵr nad yw e eisiau cael ei weld yn derbyn adre cyrff milwyr o Sbaen ychydig ddyddiau cyn i’w teuluoedd fynd i bleidleisio.

Ond o ddarllen y cyfryngau heddiw, dwi ddim yn meddwl bod ganddo achos i boeni. Oes, mae digonedd o bobl yn erbyn bomio Siria, ond nid dyna beth sydd dan sylw. Hyd yma does dim ymgyrch i’w weld yn erbyn danfon milwyr i Affrica. Ac eto mae’n petruso. Dyna natur y dyn.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: