Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 15, 2015

Seidr 2015

Mae’r seidr newydd yn y gasgen lle bydd yn eplesu’n dawel dros y misoedd nesaf.

Roedd yr afalau wedi eu casglu ers tro ac wedi bod mis yn aros ar gyfer y broses nesaf. Dim ond afalau ar gyfer y ford sy’n cael eu pigo, mae’r gweddill yn cael disgyn a’u casglu o’r llawr.

P1190029

Ar ôl golchi’r afalau a’r offer, mae’r ffrwyth yn cael ei falu gan y felin fach hon. Cyn dyfodiad cyflenwad trydan byddai pobl Asturias yn defnyddio teclyn o bren a nerth braich. Mayo oedd enw’r teclyn, a mayar yw’r gair  Astwreg hyd heddiw am y weithred o falu ‘fale.

Bron i 100kg oedd gyda ni eleni (cymydog sy’n 94 wedi rhoi’r gorau i facsu seidr felly cawsom ni afalau o’i berllan ef), a bydd yn gwneud rhyw 60 liter o ddiod.

P1190077

Casgen bren yw hi, a’r twll yn agored i’r burum gael codi a dod mas. O bryd i’w gilydd rhaid sychu hwnnw ac ychwanegu mwy o sudd os bydd angen. Y broblem fwyaf eleni yw’r tywydd: mae’n rhy dwym! Pawb yn y pentref yn gytûn, rhaid wrth dywydd oer i wneud seidr da. Cawn weld erbyn y Pasg.

Dilyn y gair ‘seidr’ yn y cwmwl geiriau am fwy ar y pwnc, mae hwn yn un.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: