Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 18, 2015

Etholiad Sbaen 20.12.15

Heddiw yw diwrnod olaf yr ymgyrchu etholiadol. Am hanner nos, bydd y ‘cyfnod ystyried’ yn dechrau, heb arolygon barn, heb ganfasio, heb areithio na newyddion. Dyna’r ddeddf. Wedyn ddydd Sul, bydd etholwyr Sbaen yn cael y cyfle i fynegi barn ar lywodraeth Mariano Rajoy a’r PP (ceidwadwyr).

Byddant hefyd yn mynegi barn, neu deimlad, ar eu bywyd nhw a bywyd y wlad. Yn economaidd, mae pethau wedi dechrau gwella ar ôl cwymp 2008, ond nid ymhobman. Yn wleidyddol, mae ganddyn nhw ddwy blaid newydd gref, Podemos ar y chwith a Ciudadanos ar y dde-canol, i’w hystyried. Yn diriogaethol, mae carfan fawr o bobl Catalwnia o blaid gadael Sbaen a sefydlu gwladwriaeth annibynnnol. Pleidleisiodd mwyafrif dros y pleidiau ‘Sí’ yn ddiweddar, ond maen nhw eto heb gytuno ar ffurfio lywodraeth rhanbarthol (am y rheswm sy’n ymddangos yn y frawddeg nesaf). Ac yn ddirfodol, mae Sbaen o hyd yn hollti yn ei hanner rhwng chwith a de.

Yn ôl yr arolygon, gyda deuddydd i fynd mae dros 40% o’r etholwyr heb benderfynu sut i bleidleisio. Mae’n bosib wrth gwrs taw dyna’r ateb maen nhw’n rhoi – mae diffyg ymddiried yn y dosbarth gwleidyddol a’r cyfryngau yn uchel, ac mae dweud hynny’n fwy cwrtais na gwrthod ateb.

Yn wahanol i beth ddigwyddodd yn y DU, mae pobl yn barod i ddweud eu bod yn cefnogi’r ceidwadwyr. Mae’r PP ar y blaen o chydig yn fwy na thrwch blewyn – ‘gwddwg’ fel bydd pobl rasio ceffylau’n ei ddweud. Mae’r PSOE (debyg i’r Blaid Lafur,  rhan o’r hen drefn yn ceisio ymnewyddu ar gyfer y byd newydd) yn ail a’r bleidlais yn edrych yn weddol solet.

A’r pleidiau newydd? Ganwyd Ciudadanos fel plaid gwrth-annibynniaeth yn Catalwnia. Mae wedi ceisio gosod ei hun yn y canol, a rhai o’r tu fâs wedi ei gweld yn debyg i’r Blaid Rhyddfrydol. Mae ei pholisiau economaidd yn adain dde, a’r pwyslaid ar gadw Sbaen yn Sbaen yn dal. Hyd yn hyn mae wedi gwrthod y syniad o glymbleidio gyda Rajoy, ond gan ei bod eisoes wedi gwneud gyda PP a PSOE ar lefel rhanbarthol efallai y byddai’n well edrych ar beth mae wedi gwneud yn hytrach na dweud. Mae ei harweinydd Rivera yn bersonoliaeth cryf, ond mae poblogrwydd y C’au wedi gostwng yn ystod y flwyddyn.

Podemos, y blaid a aned o fudiad yr indignados, ddioddefodd o ymddangosiad y C’au. Mae’r 2 blaid yn gryf yn erbyn llygredd ariannol, ond mae Podemos i’r chwith yn economaidd ac yn gwrthwynebu polisiau llymder. Mae nhw yn awr yn codi eto, ac yn ôl El País heddiw mae strategwyr o fewn y PP o’r farn y gallen nhw wneud cystal â’r PSOE. Ac mae hynny, yn ôl yr erthygl, wedi eu sbarduno i ymdrechu fwyfwy i ennill cefnogaeth Ciudadanos er mwyn cadw mâs y chwith.

Nac anghofiwn IU, y comiwnyddion a’r Blaid Werdd, fydd yn ennill seddau oherwydd y sustem etholiadol, ond sy’n annhebyg o ffurfio rhan o lywodraeth ac sydd – efallai – wedi colli’n fwy na neb o lwyddiant Podemos.

Cawn weld.

 

**Er mwyn dilyn trywydd y pleidiau dros y cyfnod ystyried ac ar y dydd, dilyna @Electograph ar Twitter – dŵr a ffrwyth yn lliwiau’r pleidiau!**

 

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: