Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 23, 2015

Etholiad Sbaen: Ffurfio Llywodraeth

Ddeuddydd cyn y Nadolig, aeth arweinydd y PSOE (democratiaid cymdeithasol) i dŷ swyddogol prif weinidog Sbaen i gyfarfod ag arweinydd y PP (ceidwadwyr). Roedd Mariano Rajoy wedi gwahodd Pedro Sánchez er mwyn ceisio cael cefnogaeth yn y bleidlais ar gyfer ‘arlywydd y llywodraeth’ (h.y. prif weinidog) yn y llywodraeth fydd yn cael ei ffurfio ar ôl etholiadau ddydd Sul.

Y PP gafodd y nifer uchaf o seddi, ond dim digon i reoli ar ei phen ei hun. Ei phartner naturiol fyddai Ciudadanos, plaid newydd dde-canol, wrth-lygredd. Ond ni chafodd Ciudadanos, neu’r C’s fel mae cyfryngau Sbaen yn eu galw nhw, y llwyddiant yr oedd rhai wedi darogan. A hyd yn oed petaen nhw’n cytuno i glymblaid gyda’r PP, a dydyn nhw ddim eto, ni fyddai hynny’n ddigon i gael mwyafrif yn y Cortes (prif siambr senedd Sbaen).

Rhyw fath o ‘uwchglymblaid’ felly, oedd gyda Rajoy mewn golwg, y ddwy hen blaid sydd wedi rhedeg Sbaen ers marwolaeth Franco (gydag ambell i newid enw) yn dod at ei gilydd i gadw pethau fel y mae. Ond roedd Pedro Sánchez o’r PSOE wedi deall y sefyllfa ychydig yn well, yn deall bod pobl Sbaen am weld newid. Mae ef wrth gwrs yn credu y gall ei blaid ef fod yn rhan o’r newid, sy’n gwestiwn ynddo’i hun.

Gwrthod gwahoddiad Rajoy wnaeth Sánchez. Gwell gan y PSOE ddod i gytundeb gyda Podemos, y blaid newydd arall, wrth-llymder, wnaeth yn well na’r disgwyl, a hefyd y C’s, yn ogystal â phleidiau ar y chwith o Gatalwnia ac Euskadi.

Os na fydd Rajoy yn gallu ffurfio llywodraeth sy’n cael ei dderbyn gan fwyafrif y Cortes, bydd gan Sánchez ei gyfle. Ac os methu wneith ef, ymhen deufis bydd rhaid cynnal etholiadau newydd. Sneb yn moyn gweld hynny.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: