Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 2, 2016

A Blwyddyn Newydd Dda

Diwrnod yn yr ardd heddiw. Tocio’r hortensias. Dyw e ddim yn waith anodd ond mae’n cymryd amser. Dianc felly i’r clogwyni

P1190118

lle’r oedd y gwynt o’r gorllewin a llif y môr o’r gogledd yn gwthio dŵr lan y twneli cul yn y graig, iddo ffrwydro dros y tir.

Camu nôl i’r bae, a gweld enfys yn llwch y môr: arwydd bod amser gwell i ddod? Gobeithio wir.P1190131

 


Responses

  1. A Blwyddyn Newydd Dda i chwi yn Asturias! O leia ‘dyw hi ddim yn bwrw glaw acw fel y mae hi yma yn ddyddiol ers wsnosau!! Daw eto haul ar fryn … rywdro.

    • Rhy sych fan hyn – a dyna’r tro cyntaf i fi na neb arall yn Asturias ddweud hynny. Ddoe gwelsom y mynyddoedd uchel, y Picos de Europa, o bell a does bron dim eira ar ochr y gogledd lle dylai fod trwch. Gall fod yn broblem erbyn yr haf: yr eira sy’n meirioli i’r afonydd (gweladwy a thanddaear) yn ystod y gwanwyn a dechrau’r haf ac yn cadw’r lle yn las. Ond digon posib daw hi’n fis neu ddau o law cyn Pasg.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: