Gobeithio bod amynedd, os nad diddordeb, ond rhaid imi nodi’r tywydd rhyfedd eleni (eto) a’r canlyniad gwael ddaeth ohono.
Yma ar arfordir Asturias mae wedi bod cyn dwymed â’r haf. Dyw’r planhigion ddim yn deall chwaith beth yw’r byd newydd yma – mae dail gleision y gwanwyn yn ymddangos ar y coed ffrwythau a’r jasmin a’r hibiscus yn dwyn blodau.
Mae’n 18° heddiw, a minnau wedi llwyddo i gael yr arwydd ‘gradd tymheredd’ i weithio! Mae’r gwynt yn chwythu’n gryf, ond mae’r awyr yn gwmwl i gyd ac mae’n bwrw glaw. Dim mwy o danau, gobeithio.
Dyma’r olygfa o’r cefn. A’r un – a gwaeth na hynny – sydd i’w weld ar hyd a lled Asturias. Ar un pryd roedd dros 60 o danau mynydd a rhos yn llosgi. Bu farw peilot hofrennydd oedd yn cario dŵr i ddiffodd tân yn ardal Arriondas, hanner awr i ffwrdd. Llosgwyd coed castanwydd yng ngorllewin y dalaith, coed oedd yn cael eu defnyddio fel busnes, a’r perchnogion yn gwerthu’r cnau a’r pren.
Sdim dadl bod rhai tanau wedi eu cynnau’n fwriadol, ac eraill oherwydd esgeulustod pobl oedd yn ymweld â chefn gwlad heb sylweddoli mor sych oedd yr eithin a’r brwyn. Unwaith yn llosgi, roedd y tân yn lledu drwy’r planhigion crîn ac yn cael pas gan y gwyntoedd cryfion i lefydd newydd.
Gyda fi deimlad y bydd yn wanwyn rhyfedd pan ddaw o ddifri.
Gadael Ymateb