Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 6, 2016

Ystwyll Asturias

Gŵyl dra gwahanol yw dydd yr ystwyll yn Asturias i’r hyn sy’n cael ei ddathlu yng Nghymru. Diwrnod olaf Nadolig, amser i dynnu’r addurniadau, tacluso’r goleuadau bach a chael gwared ar y goeden am flwyddyn arall.

Yn Sbaen, diwrnod ymweliad y doethion yw hi, i’r crefyddol a’r anffyddiwr fel ei gilydd. Achos ymweld y maen nhw, hyd heddiw, dan enwau tri brenin o’r Dwyrain Pell, Melchior, Gaspar a Baltasar. Nhw sy’n dod ag anrhegion i blant Sbaen, er bod Siôn Corn a’r diwylliant eingl-Americanaidd erbyn hyn wedi achosi newid – rhaid cael rhywbeth ar Ddydd Nadolig hefyd.

P1190138

Mae cynghorau lleol a gwirfoddolwyr yn trefnu gorymdeithiau, hyd yn oed mewn trefi bach fel Ribadesella. Fel arfer bydd y 3 brenin yn cyrraedd y ceimewn cwch pysgota, ond roedd y môr yn gryf a’r tonnau’n uchel neithiwr ac roedd hynny’n amhosib. Roedd cannoedd yn aros yn y gwynt main iddyn nhw ddringo i’r tri choets â gosgordd i deithio drwy’r strydoedd.

P1190148

Wrth orymdeithio, mae’r tri magos yn taflu losin at y gwylwyr. Gwelsom ni sawl plentyn yn cario bag plastig ac yn casglu dwsenni o ddanteithion o’r pafin. Yn ogystal â’r brenhinoedd a’u gosgordd, roedd grŵp o fand pibgorn y dref, a nifer o wyddau gyda’u ci yn cadw trefn arnynt.

P1190144

Mae cryn dadlau ynglŷn â phresenoldeb gŵyddau ac anifeiliaid eraill yn nathliadau’r Magos, a’r dinasoedd mawr wedi gwahardd y rhan hon o’r orymdaith am fod y creaduriaid yn cael ofn, ac weithiau yn cael niwed.

Mae heddiw yn ddiwrnod bant o’r gwaith (onibai’ch bod yn gorfod bwydo anifeiliaid neu phobl) lle bydd mynd mawr ar gacen arbennig, y roscon de reyes, wnes i sôn amdano’r tro diwethaf imi ysgrifennu am yr ystwyll

Bydd y plant yn dychwelyd i’r ysgol a dyddiau llwyd a diflas y gaeaf yn dechrau o ddifri…edrych ymlaen at y Carnifal!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: