Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 12, 2016

Tynged Tywysoges

Mae chwaer brenin Sbaen (a merch yr un blaenorol y bu’n rhaid iddo ildio’r goron) o flaen ei gwell mewn llys ym Mallorca. Cristina de Borbón, gyda’i gŵr, ynghŷd â chyn-lywydd cymuned Ynysoedd y Baleares a nifer o swyddogion, yn wynebu rhestr o gyhuddiadau’n ymwneud â thwyll, llygredd ariannol a dwyn arian cynhoeddus. Ar ôl misoedd lawer o’r broses ymchwilio, dyma ni wedi cyrraedd y broses o glywed yr achos.

Ond mae cyfreithiwr drud ar ôl cyfreithiwr drud wedi codi ar ei draed i ddadlau na ddylai Cristina wynebu achos o gwbl. Dwyn arian cyhoeddus? Yn ôl cyfreithiwr Hacienda (y Trysorlys) dim ond ‘slogan’ oedd eu hymgyrch ‘Hacienda Somos Todos” (mae Pawb yn Rhan o’r Trysorlys) ymddangosodd ar adeg pan fyddai pobl gyffredin yn gorfod talu’u treth incwm, neu gyfrannu at arian cyhoeddus yn lle ei ddwyn.

Dadl y brigâd siwtiedig yw hyn: yn wahanol i weddill y diffynyddion, dim ond cyhuddiad gan unigolion sydd yn erbyn Cristina. Mae’r gweddill wedi eu cyhuddo gan y Wladwrieth, a wrthododd y cyfle i ymuno yn yr achos yn ei herbyn.

Dau bwynt: dyw Manos Limpias, y grŵp o ‘weithwyr’ Ffalangaidd sydd yn ei herlyn, ddim yn un o’m cynghreiriadau arferol. Ond mae’n anodd gweld sut na fyddai hi’n haeddu diwrnod mewn llys barn; pan ymddangosodd gerbron yr ynad yn ystod yr ymchwilio, ei hunig atebion oedd “ni wyddwn” ac “nid wyf yn cofio”.  Nid dweud yr wyf ei bod yn euog, ond y dylai gael ei chlywed.

Yn ail, nôl yn 2014, a’r broses eisoes wedi dechrau, fe ddwedodd y prif weinidog, Mariano Rajoy mewn cyfweliad teledu ei fod yn “siŵr bod y dywysoges yn ddieuog” ac “y byddai popeth yn mynd yn iawn iddi”. Geiriau sydd yn cydeistedd yn gyfforddus iawn gyda gweithgareddau’r cyfreithwyr ar ei rhan ddoe a heddiw. (Cyfreithwyr sy’n cael eu talu gan y cyhoedd, noder.)

Reit, rwyf i wedi bod yn darllen o gwmpas y pwnc. Athrawiaeth Botín yw’r geiriau sy’n cael eu hailadrodd. Athrawiaeth ddaeth gan Oruchaf Lys  Sbaen mewn achos yn ymwneud â chyn-bennaeth Banco Santander. Athrawiaeth sy’n dweud nad oes rhaid i rhwyun wynebu llys lle does dim ond cyhuddiad ‘popular’ h.y. gan unigolyn. Ond mae Athrawiaeth arall yn bod: Athrawiaeth Atutxa, sy’n cymedroli’r un flaenorol. Yn awr y sefyllfa yw hyn: os bydd niwed i berson (cyfreithiol) Botín yw’r meistr, ond pan fydd sôn am niwed i fuddiannau cyhoeddus, Atutxa amdani.

A sdim rhaid i lys Mallorca benderfynu ar unwaith. Fe allai Cristina gael ei gadael yn y doc drwy gydol yr achos a wedyn clywed nad oedd dim achos yn ei herbyn. Rywsut dwi ddim yn meddwl bydd pethau’n troi mâs fel yna.

 

 

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: