Mae Sbaen yn dal heb lywodraeth, chwech wythnos ar ôl yr etholiad cyffredinol. Mae’r cyn Brif Weinidog, Mariano Rajoy (PP), sy’n dal i weinyddu’r wladwriaeth er na all wneud deddfau newydd, wedi gwrthod mynd i bleidlais ar ei arweinyddiaeth ef achos nad oes digon o gefnogaeth ganddo yn y Cortes, y brif siambr.
Tro Pedro Sánchez (PSOE) yw hi felly i geisio ffurfio llywodraeth glymbleidiol. Mae ef wedi gwrthod gweithio gyda’r PP, ac ar hyn o bryd yn dilyn trywydd anodd rhwng Podemos, y pleidiau cenedlaetholgar o Gatalwnia, a Gwlad y Basg, ac arweinyddion rhanbarthol ei blaid ei hun. Mae nifer o’r rhain, yn enwedig Susana Díaz (Andalucia) yn anfodlon iawn cydweithio â’r cenedlaetholwyr. Ac yn awr mae Sánchez wedi addo y caiff aelodau’r blaid rhoi barn ar y cynnig. Aros mwy.
A’r dywysoges? Mae ei hymdrech hi i ddianc rhag yr achos llys wedi methu. Bydd Cristina yn y doc yn Palma de Mallorca ar y 9fed o Chwefror, ar gyhuddiadau o dwyll ariannol gyda’i gŵr a rhai o’r bobl oedd yn gweithio iddynt.
Ac mae nifer o achosion llys eraill yn ystod y Mis Bach fydd yn siŵr o ddenu cyfryngau’r byd.
Yfory a thrennydd bydd seren FC Barcelona, Neymar, ei dad a’r clwb ei hunan, yn wynebu cyhuddiadau o dwyll a llygredd ariannol ynglŷn â’r modd yr arwyddwyd ef i’r Barca.
Bydd llu o gyn-wleidyddion, bancwyr a dynion busnes o flaen eu gwell ymhob ran o Sbaen ar gyhuddiadau tebyg: i gyd, y ôl yr erlyniad, wedi manteisio ar eu safleoedd pwysig i ddwyn arian y cyhoedd mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.. Yn eu plith cyn-lywydd llywodraeth Catalwnia, Jordí Pujol, cyn-bennaeth y cyn-fanc Bankia, Rodrigo Rato (caru’r enw!), a chyn-drysorydd y PP, Luis Bárcenas. Mae’r achosion hyn wedi cymryd blynyddoedd i gyrraedd y llys, ond dyma nhw o’r diwedd.
Sylwadau diddorol iawn, trueni bod cyn lleied o sylw yn y wasg am faterion yn Ewrop tra mae cymaint o sôn am y syrcas etholiadol yn yr UDA.
Diolch am eich erthyglau, yn ddiddorol pob tro.
By: Richard Morse on Ionawr 31, 2016
at 4:55 pm
Diolch Richard. Dyna un o amcanion y blog yma; rhaid cyfaddef ei fod yn dipyn o bopeth, gyda sylw i’r ardd, y gegin a’r amgylchedd, hanes a thraddodiadau Asturias – ond hefyd i faterion y dydd ar y penrhyn Iberaidd. Ac wrth wneud hynny, yn ehangu’r deunydd sydd ar gael yn Gymraeg.
By: cathasturias on Ionawr 31, 2016
at 6:06 pm
Mae’n hynod o ddiddorol acw! Bydd y llysoedd yn brysur a’r cyfreithwyr yn gwneud ffortiwn!! Dim son am hyn yn ein newyddion ni er mawr gywilydd.
By: dyfrigsiencyn on Chwefror 1, 2016
at 11:40 am