Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 8, 2016

Neb yn Hwylio Heno

Rwy’n falch i ddweud ein bod ni wedi hwylio o Asturias wythnos yn ôl, cyn i storom Imogen gyrraedd gogledd-orllewin Ewrop. Mewn gwirionedd, hwylio o Cantabria fyddwn ni, achos mae’r gwasanaeth oedd i fod i dechrau o Gijón wedi darfod, felly Santander yw’r unig ddewis.

Fel arfer mae’n daith hyfryd:

P1120092

Ond dim bob tro! Brittany Ferries sy’n hwylio o Santander i Portsmouth neu Plymouth, ac ar dywydd fel hyn mae’r neges yn cyrraedd ‘dim hwylio. ffonia am fanylion y bad nesaf.’ Heddiw er enghraifft, ar y map sy’n dangos lleoliad y llongau, dim ond un sydd wedi mentro ar draws y Sianel. A dim un yn nyfroedd Llydaw na Sbaen.

Flynyddoedd yn ôl roedd y cwmni’n barotach i hwylio ar dywydd mawr, er nad oedd y llong bob amser yn cyrraedd y porthladd iawn. Rwy’n cofio un fordaith a ddechreuodd o Plymouth, yn gobeithio glanio yn Santander y bore wedyn.  Roedd bwyta cinio’r noson honno yn ddiddorol a dweud y lleiaf – y gwin yn tueddu i godi o’r gwydr cyn ei fod wedi cyrraedd dy geg, a’r bobl oedd yn cymryd y ‘bwfe’ yn gorfod bod yn ofalus iawn a rhuthro am y ford fel mynd lan rhiw – ac yna aros i’r llong  wyro i’r ochr draw cyn mynd yn ôl. I’r cabin, ar ôl cael ar ddeall ein bod yn mynd i angori ger Brest dros nos, ac i gysgu. Ond yn  y bore, daeth cyhoeddiad na fyddem ni’n mynd i Sbaen, ond tuag at y gogledd eto, i borthladd Roscoff yn Llydaw.

Bant â fi fel Liam Williams lawr i’r ddesg wybodaeth i ofyn am fap o heolydd Ffrainc. Dim ond ychydig oedd gyda nhw, ond roeddwn i mewn pryd. Gweld bod heol fawr reit i lawr ar hyd yr arfordir. Glanio yn Roscoff am 4, cael €300 yn arian parod fel iawndal, ceisio yn ofer newid y teclyn iaith yn fy mhen, ac unwaith eto tua’r de. Roedd y storom cynddrwg ar y tir. Ar ôl 6 awr o wynt a glaw, droesom i fewn i dref Saintes, heb wybod dim andani. Stryd siopa, afon, Bar Central. Oedd roedd stafell gyda nhw. Y bore wedyn, cawsom wybod bod Saintes yn dref fawr gydag adfeilion Rhufeinig o bwys. Ond y diwrnod hwnnw doedden nhw ddim o bwys inni.

4 awr i’r ffin, 3 awr wedi hynny. Gartref! A dyna pam fydda’i wastod yn meddwl am forwyr pan ddaw rhybudd stormydd.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: