Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 21, 2016

Casino

Wrth reswm bydd y sawl sy’n darllen hwn yng Nghymru yn canolbwyntio ar ddechrau’r ymgyrchoedd efeilliaid ar gyfer y Senedd a refferendwm Ewrop. Ond mae Sbaen yn dal heb lywodraeth ar ôl deufis.

Wedi methiant y PP (ceidwadwyr) i ffurfio clymblaid, mae arweinydd y PSOE yn dal i gynnal trafodaethau gyda’r ddwy blaid newydd, Podemos a Ciudadanos. Mae’r grwpiau hynny yn llai eu nifer yn y senedd ond byddai cael cytundeb i weithio gyda’r ddwy yn rhoi’r wobr i Pedro Sanchez.

Ar hyn o bryd mae pawb yn dal i chwarae’r gêm yn dynn iawn, heb roi awgrym a fyddan nhw’n derbyn yr hyn sydd yn cael ei gynnig, ond yn ddwy yn beirniadu’u gilydd. Mae hefyd yn broblem i Sanchez bod barwniaid rhanbarthol ei blaid yn gwrthwynebu dêl gyda Podemos, ac yn bygwth gwrthryfela yn erbyn unrhyw cytundeb gyda’r pleidiau gwrth-llymder a/ond cenedlaetholgar yng Nghatalwnia a Gwlad y Basg. Pawb â digon o bethau ar eu rhestr o’r hyn y maen nhw yn eu herbyn, ond neb yn siarad yn bositif.

Mae Mariano Rajoy yn dal i deithio o gwmpas y byd fel prif weinidog er nad yw’n gallu gwneud polisi newydd. Tra roedd e ym Mrwsel yr wythnos ddiwethaf fe’i glywid yn dweud wrth D. Cameron ei fod yn disgwyl y byddai etholiadau newydd ym mis Mehefin!

Ond yn ôl y polau, yr un fyddai’r canlyniad. Mae’r bobl yn amlwg eisiau cael eu cynrychioli gan nifer o bleidiau. Man a man i’r gwleidyddion dderbyn hynny yn lle ymarfer eu gwynebau pocer am rownd arall.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: