Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 28, 2016

O’r Lluarth: Gwersi’r Gwanwyn

Bydd y wers gyntaf yn gyfarwydd: sdim diben rhuthro i hau na phlannu pan na fydd y tywydd wedi gwells digon, tymheredd y pridd wedi codi a’r gwyntoedd oer wedi gostwng. Rydym ni wedi dysgu’rt ail hanner, ond yn dal yn hau mewn potiau’n rhy gynnar yn fy marn i – mae’r gegin yn llawn o domatos bach a llu o bethau eraill yn aros eu tro i fynd i’r cae.

Mae’r ail wers yn newydd imi. Y llynedd planasom ni ddau fath o arlleg, y ‘gwddf meddal’ a’r gwddf caled’. Fel arfer, y cyngor yw i gadw at y rhai gwddf meddal lle nad oes haf hirboeth yn warantiedig, ond fe wnaethon nhw’n dda iawn, a thyfu dipyn yn fwy na’r lleill. Yn ôl fy arfer felly, rwyf i wedi bod yn cymryd y rhai bach o’r storfa gyntaf, gan ddisgwyl i’r rhai mawr, y caledion, barhau’n well. Ond na. Mae’r rhai gwddf caled wedi dechrau adflaguro, y canol yn las a’r gweddill wedi meddalu. Mae’r rhai llai, y gwddf meddal, yn berffaith. Rhain sy’n cael mynd i’r ffwrn heno gyda’r llysiau rhost.

P1190328

A’r drydedd o’r gwersi yw: mwynhewch! Heddiw daeth y merllys, neu asparagws, cyntaf o’r cae – i’r meicrodon am 3 munud, dim dŵr, tipyn bach o fenyn ar ei ben, cinio bach blasus iawn. Ac yn calonogi rhywun i fynd yn ôl at y chwynnu didiwedd.


Responses

  1. Plis fedrch chi ffonio Wena BBC 01248 374727

    • wnei di roi mwy o fanylion mewn neges uniongyrchol ataf ar Drydar? @CathAguamia Eisiau gwybod mwy cyn hala arian ar ffonio dramor!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: