Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 20, 2016

O’r Cae: Edrych Nôl a Mlaen

Dim ond dwy flynedd yw hi ers inni brynu’r cae gyferbyn â’r tŷ. I fod yn fanwl gywir, tri-chwarter y cae, achos mae un rhan o hyd yn cael ei defnyddio’n borfa gan gymydog sy’n pesgi lloi.

IMG_0079

Daeth cymydog arall i aradu, ac o fewn chwe mis roeddem ni’n mwynhau cynhaeaf da o ffa, a chynhaeaf cymysg o domatos.  Roeddem ni hefyd wedi plannu merllys, asparagws, sydd angen sawl tymor i’r planhigyn aeddfedu, a chwrens duon.

Erbyn yr ail flwyddyn roedd y coed onn ar hyd yr ochr orllewinol wedi eu tocio, nifer o goed ffrwythau wedi eu plannu, a bron pob pryd yn cynnwys rhywbeth newydd ei dorri.

P1180738

Y sbigoglys oedd seren 2015: yn tyfu fel chwyn ac yn hapus iawn imi dorri ychydig o ddail a gadael gweddill y planhigyn i dyfu. Doeddwn i erioed wedi ei fwyta yn syth o’r ardd o’r blaen;  does dim o’r blas asid fydd ar sbigoglys siop weithiau.

2016 wedi dechrau gyda gaeaf twym a gwanwyn gwlyb. Eleni mae’r merllys wedi bod ar blât bob yn eilddydd

P1190328

yn suddlon ac yn ffres iawn iawn. Does dim byd tebyg.

Ond yr her fel arfer fydd cadw’r tomatos rhag y blight, rywsut neu’i gilydd.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: