Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 31, 2016

O’r Lluarth: Codlysiau

Rydym ni wedi bod yn bwyta pŷs o’r cae, a ffa llydan hefyd, ers bron i bythefnos.

P1190467_1024

Pŷs crwn ydyn nhw, coden ifanc anaeddfed yw hon, a’r ffa llydan sydd i’w gweld yn y cefndir. Bydda’i’n mynd ar hyd y rhesi bob dydd yn pigo digon i swper, felly daw mwy.

P1190468_1024

Ac wrth droi ffordd arall gyda’r camera, dyma’r ffa hwyr. Maen nhw i gyd yn edrych yn debyg iawn i’w gilydd ar hyn o bryd, ond yma mae fabes, y ffa mawr gwyn; y borlotti o’r Eidal; verdinas, rhai bach gwyrdd sy’n debyg i flageolets;  negritos, rhai bach duon sy’n llai fyth, a ffa Ffrengig i’w bwyta’n gyfan.

Dros yr haf bydd angen dwrhau a chwynnu, a gwylio rhag y pulgon,  y clêr duon sy’n bla ar y dail ifainc. Eleni mae nifer o gapanau cornicyll gyda ni a’r bwriad yw plannu rheiny – eu haberthu nhw mewn gwirionedd – ar ddiwedd y rhesi. Y gobaith yw y bydd yn well gan y clêr duon y blodyn na’r llysiau.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: