Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 19, 2016

Gyda’n Gilydd y Gallwn

Yfory, 20fed Mehefin, bydd hi’n chwe mis ers etholiad Sbaen. Ddydd Sul, 26ain, daw un arall. Roedd y canlyniad ym mis Rhagfyr mor agored o ran y bedair prif blaid na fu’n bosib ffurfio llywodraeth: nid gan blaid unigol, nid gan glymblaid, nid hyd yn oed drwy gytuno i gydweithio ar fesurau ariannol.

Oherwydd hynny, mae’r cyn-brif weinidog, y ceidwadwr Mariano Rajoy (PP), wedi aros yn ei swydd – ond heb y gallu i wneud polisiau newydd. Dyma sut y mae pethau wedi newid yn ôl yr arolwg barn diweddaraf . Mae’r graffeg yn dangos y byddai’r ddwy blaid fawr hanesyddol, y PP a’r PSOE, ar eu colled o ran seddi yn y senedd newydd. Byddai Unidos Podemos, cyfuniad o Podemos, y blaid a anwyd ym mudiad yr Indignados ac sy’n gwrthwynebu polisiau llymder, ac IU, sydd ei hunan yn gyfuniad o Gomiwnyddion a Gwyrddion, ar ei hennill gyda 22 o seddi ychwanegol.

Dau beth pwysig ar y chwith: mae Unidos Podemos ar y blaen, gyda 93 o seddi i 82 gan y PSOE (tebyg i’r Blaid Lafur). Nhw felly fyddai’n cael cyfle i ffurfio llywodraeth petai’r PP, sydd yn ôl y pôl yn dal gyda fwy o seddi na neb arall, yn methu. A phetai UP a’r PSOE yn dod at ei gilydd, fe fydden nhw ond un yn brin o fwyafrif heb droi at y pleidiau llai, ac yn arbennig felly at y cenedlaetholwyr Catalan a Basg. Ac mae hynny’n bwysig achos dyna’r brif reswm dros fethiant y PSOE i ddod i gytundeb â Podemos y tro diwethaf. Mae barwniaid rhanbarthol y PSOE yn gryf yn erbyn caniatau annibyniaeth ‘chwalu Sbaen’ fel y dwedan nhw.

Y tro diwethaf hefyd, dewis arweinydd y PSOE oedd cael cytundeb yn gyntaf gyda Ciudadanos, plaid dde-canol sydd hefyd yn gwrthwynebu mudiadau annibyniaeth. Mae C’s wedi colli peth cefnogaeth ond yn dal gyda’r un nifer o seddi yn ôl yr arolwg. Ond fyddai arweinwyr Unidos Podemos ddim yn debyg o godi’r ffôn i drafod cydweithio gyda nhw.

Sdim byd wedi newid – ac eto mae llawer wedi newid. Fe allai nos Sul nesaf fod yn ddiddorol iawn, a’r dyddiau wedyn yn fwy fyth. Ystyr Unidos Podemos, gyda llaw, yw ‘Gyda’n Gilydd y Gallwn’. Rwyf i wedi dweud hyn o’r blaen, ond yr unig ffordd i’r chwith lywodraethu yn Sbaen yw i bawb weithio gyda’i gilydd ar yr hyn sydd ganddynt yn gyffredin. Ac fe fyddai llywodraeth o’r chwith yn debycach o werthfawrogi hawl y Catalaniaid a’r Basgwyr i gynnal refferendwm.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: