Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 5, 2016

O’r Gegin: Brechdan

Bydd y dilynwyr cyson yn gwybod bod fy syniadau am beth i baratoi i ginio yn dibynnu gymaint ar beth sydd dros ben yn yr ardd neu’r stordy ag unrhyw beth arall. Ar hyn o bryd, ffa. Ffa mawr gwyn Asturias, fabes, prif gynhwysyn y fabada.

Ond maen nhw hefyd yn cydorwedd yn dda iawn gyda physgod, ac yn yr achos hwn, tiwna o dun. Brechdan stordy yw e, ond hefyd yn perthyn i draddodiad Eidalaidd y salad tonno e fagioli.

*Angen dechrau’r diwrnod cynt drwy socan y ffa*

Bydd angen:

tun 200g tiwna mewn olew olewydd, 200g ffa mawr gwyn wedi’u sychu neu 400 o dun, wynwnsen fach goch neu hanner un fwy, olew olewydd, sudd lemwn, halen,  pimentón (llwch pupur wedi’i sychu) poeth.

Torri’r wynwnsen yn fân a’i dodi mewn dŵr oer am awr.

Berwi’r ffa gyda llwyaid fach o beicarb. Y tric er mwyn cael ffa meddal cyfan yw peidio â’u gadael i ferwi’n rhy wyllt, ond gan ein bod yn mynd i weithio piwri heddiw, sdim eisiau becso.

Golchi’r ffa mewn dŵr oer, a’u stwnsio. Rhidyllu’r wynwnsen a’i hychwanegu. Ychwanegu 2 lwyaid bord o olew, cymysgu’n dda, a blasu. Un llwyaid te o sudd lemwn, a blasu. Hanner llwyaid te o pimentón, a blasu. (Os nag wyt ti’n hoff o flasau poeth, gelli ddefnyddio pupur du cyffredin.)

Tynnu’r tiwna o’r tun a’u stwnsio gyda fforc.

Torri tafell o fara, lledu’r piwri ffa ac yna’r tiwna, tafell arall a dyna ni. Fel arfer bydda’i’n ei fwyta gyda salad bach o domatos ac olewyddion, ond fe allet ti hefyd dodi rheina yn y brechdan.

Dim llun tan y tro nesaf y byddaf yn ei baratoi!

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: