Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 21, 2016

Diwrnod o Haf

Mae’n 6 o’r gloch y bore, a’r brain yn dechrau anesmwytho yn y coed gerllaw. Clywaf geiliog drws nesaf yn clochdar i gyfarch ei ddiwrnod newydd. Ac yma yn y tŷ mae’n dal yn boeth, a minnau’n ffaelu cysgu.

Dim ond haenen denau o wlith sydd wedi bod y ddeuddydd diwethaf, a rhaid dwrhau’r planhigion ifanc a’r blodau. Ond heddiw mae’r awyr yn gymylog, ac anodd dweud lle mae golau lleuad lawn yn y gorllewin yn cymysgu â golau’r wawr yn y dwyrain.

‘Día de playa’ yw’r enw fan hyn. Diwrnod lle nad oes modd gweithio yn y cae a gwell ei throi hi am y traeth a chael ein hadnewyddu gan ffresni’r dŵr.

P1190647_1024

Gwell fyth yw bod y llwybr tuag at y traeth yn dilyn yr afon. Mae cerdded o dan y coed yn bleser ynddoi’i hun, a hyd yn oed amser cinio roedd lleithder i’w deimlo ar furiau’r hen felin ac ar fôn coeden. Yn y llun, yr heulwen yn goleuo’r afon a gwas y neidr. Ychydig iawn o afon sydd, ond bydd hynny’n newid ar unwaith pan ddaw’r glaw nesaf, achos afon gwta iawn yw hi.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: