Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 31, 2016

Cinio, cinio, cinio

Tri pheth sy’n denu ymwelwyr i Asturias: y traethau, y mynyddoedd, a’r bwyd. Yn ystod yr haf bydd ein cyfeillion – a ninnau – yn paratoi bwyd ac yn gwahodd 12, hyd at 20, i giniawa. Cinio canol dydd, gan ein bod ni yn Sbaen. Cinio 4 o’r gloch, mewn gwirionedd, erbyn bod pawb wedi cyrraedd ar ôl llyncu culín neu ragor o seidr.

Heddiw oedd y trydydd mewn wythnos! ond pwrpas y cofnod hwn yw sôn am yr un wnaethom ni ddydd Mercher. Y gŵr oedd y prif gogydd, a’r prif gwrs oedd pysgod. Ysbinbysg fydd rhai’n ei alw, neu ddraenog y môr. Yn Sbaeneg, lubina. Fel yng Nghymru, mae’r rhai sy’n cael eu gwerthu fel arfer yn llai o lawer na phan oeddwn i’n gweini bwyd flynyddoedd maith yn ôl. Er mwyn cael un fyddai’n ddigon i 12, rhaid archebu o flaen llaw.

Siop bysgod Gutierrez wrth y bont yn Ribadesella

20160730_075847

a lwyddodd i gael ysbinbysgodyn o bron i 5kg inni. Bu’n rhaid inni aros ychydig y bore hwnnw, achos roedd y pysgodyn yn dal i fod wrth y cei, ond yn y man cyrhaeddodd llanc ar gefn beic gydag ef yn saff ei ei fasged.

Dyma fwydlen y diwrnod: darnau bach o jamon iberico a chorizo (gyda bara wrth gwrs), wedyn gazpacho (nid ein tomatos ni eto, ond rhai lleol a ges i am €1/kg yn y farchnad, wedyn salad dail, ac yna’r pysgodyn, gyda thato ac ysbigoglys a moron i gyd o’r lluarth.

P1190663_1024

Wedi gorchuddio’r pysgodyn â briwsion bara (migas yn Sbaeneg) gyda menyn a chroen lemwn, ei bobi am 45 munud (diolch @JonesPadrig am y cymorth ar yr amseru). Gwnes i saws o stoc y pen gyda gwin gwyn a bara lawr. Diflannodd mewn dim o amser, ond roedd yn ddigon.

Ar ôl hynny, caws Gamoneu, fy hoff gaws o holl rai Asturias. Caws o laeth gwartheg, geifr a defaid wedi eu cymysgu, sydd o hyd yn cael ei gynhyrchu yn ambell i ‘hafod’ yn y Picos de Europa yn ogystal ag ym mhentref Gamonedo. Ac wedyn, hufen iâ cartef o guindas (ceirios gwyllt) wedi eu cadw mewn gwirod am flwyddyn. Ac wedyn, ffrwyth bach y physalis wedi eu gorchuddio â siocled gyda’r coffi. Na gyd.

Nid cystadleuaeth yw hyn. Dim ond pobl sy’n hoff o fwyd a diod yn arddangos eu crefft a’u dileit.


Responses

  1. Diddorol iawn! Wrth fy modd efo’ r blog diweddaraf. Dwi ‘n ymweld ag Errenteria ym mis Medi gyda Gŵyl Tosta – ti’n gwybod amdano?

    • Sori mod i wedi methu dy sylw – aeth i´r sbam am ryw reswm! Mae Tosta´n swnio´n ddiddorol iawn.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: