Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 9, 2016

Bant i Bilbo

Neges yw´r cofnod hwn i’r sawl sydd heb ymweld â dinas Bilbo (Bilbao) – cer!

Fues i erioed yno 30 mlynedd yn ôl pan oedd yr afon yn ffiaidd o frwnt a hen ffatrioedd yn araf adfeilio ar hyd ei glannau. Ond ers agor Oriel Guggenheim ym 1997, mae pethau wedi gwella’n aruthrol, medd ein cyfeillion sy’n cofio’r gorffennol. Gerddi, a thrên tram gyda glaswellt net ar hyd y trac. Y Plaza Nueva yn y Casco Viejo (y Sgwâr Newydd yn yr Hen Ganoldre) wedi ei hadnewyddu ac yn llawn barau tapas, pob un yn cynnig bwydydd bach diddorol, a phob yn yn gwerthu txacolí, gwin gwyn ffres Gwlad y Basg.

I’r Guggenheim gyntaf: ar ddiwrnod pan oedd thermomedau’r stryd yn dangos 30°, roedd aerdymheru’r adeilad titaniwm enwog yn bleser o’r mwyaf. Ar ben hynny, roedd pawb wedi heidio at y traeth:

P1190682_1024

dyma ran fach o waith enfawr Andy Warhol ‘Cysgodion’ – yr unig neuadd lle roedd caniatad tynnu lluniau. Mae pob un o’r rhain bron i 2f o uchder a 1.3 ar draws. Cymaint o le a neb o fy mlaen i! Y ddwy arddangosfa dros dro arall ar hyn o bryd yw Louise Bourgeois (y corryn enfawr) sydd yn ailweithio dro ar ôl tro ei phlentyndod a’r syniad o fyw mewn cawell. Ac yna Paris – detholiad o waith yr artistiaid oedd yn gweithio yno rhwng 1900-1945. Adnabyddus a rhai newydd imi.

Ar ôl blasu byrbrydau’r Plaza Nueva, cerdded i’r Alhondiga, hen warws win wedi ei throi’n ganolfan diwylliant. Lan i’r teras am txacolií bach olaf, a golygfa o rai o adeiladau canol Bilbo, yr hen (C19eg, mawreddog, fel Caerdydd neu Fanceinion) a’r newydd sydd yn cynnal synnwyr tebyg o faint a phwysigrwydd.

P1190693_1024

Un o ragoriaethu’r Alhondiga yw pileri’r llawr gwaelod

P1190688_102443 ohonyn nhw, i gyd yn wahanol, wedi eu haddurno â marmol, brics, efydd, pren, neu seramig. Wir werth ei weld.

 

 


Responses

  1. Bues i nôl yn Bilbao ym mis Tachwedd a mwynhau bob mund, dinas gweth ei gweld yn bendant.

  2. Cytuno. Mi fuon ni yn Bilbo yn 2010 a mwynhau’r Guggenheim (ar ôl siwrne reit ddychrynllyd trwy’r ddinas yn y car!). Roedd y pry copyn yno bryd hynny, lawr wrth yr afon, ac arddangosfa arall oedd yn plesio’r plant oedd y ci blodau enfawr! Byddai’n dda dychwelyd i dreulio mwy o amser yn y ddinas ei hun… rywbryd, efallai..

    • Mae’r cenau blodau’n dal yno, ac wrth ei ymyl erbyn hyn ffynhonnau cul sy’n codi o’r pafin un ar ôl y llall – a llawer o blant yn rhedeg drwyddyn nhw i liniaru gwres canol dydd!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: