Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 30, 2016

3 chynnig i gallego?

Heddiw bydd aelodau senedd Sbaen yn cyfarfod i bleidleisio dros brif weinidog newydd. Nhw yw’r rhai a etholwyd ym mis Mehefin, ar ôl i’r ymgais cyntaf fethu.  Bryd hynny doedd gan y PP geidwadol ddim digon o seddi, a’r PSOE chwith-ganol ddim digon o galon i ddod i gytundeb â phlaid wrth-llymder Podemos a’r pleidiau annibyniaeth yng Nghatalwnia a Gwlad y Basg.

Y tro yma mae’r prif weinidog dros dro, Mariano Rajoy, wedi llwyddo i gael cytundeb gyda Ciudadanos, plaid sy’n ei rhoi ei hunan yn safle ‘canolog’ tebyg i’r Rhyddfrydwyr ond sydd hefyd yn chwyrn yn erbyn annibyniaeth ‘ rhwygo Sbaen’. Ond does dal ddim digon o seddi ganddo – onibai bod y PSOE yn dewis atal eu pleidlais.

Hyd yma mae arweinydd y PSOE Pedro Sánchez wedi bod yn dweud yn gadarn taw pleidleisio yn erbyn Rajoy y gwnân nhw, heddiw ac yn yr ail bleidlais ddydd Gwener, pan fydd mwyafrif syml yn ddigon. Mae’r problemau sy’n ei gadw fe rhag gytuno ag Unidos Podemos yr un ag o’r blaen: digon o geffylau blaen yn ei blaid ei hunan sydd yn erbyn annibyniaeth, a’r ddadl ffederaliaeth heb ei wneud.

A dyma lle mae craidd y mater: yn ôl y polau dyw barn yr etholwyr ddim wedi newid llawer ers mis Tachwedd diwethaf: eu hanner nhw mwy neu lai o blaid y status quo, yr hanner arall eisiau gweld newidiadau, boed y rheiny’n rhai mawr neu’n fân. Onid dyma’r amser, y cyfle, i’r bleidiau’r newid/newydd gydweithio er mwyn gwella bywydau’r bobl?

Mae economi Sbaen yn well nag y buodd e, ond dyw hynny ddim yn dweud llawer. Mae angen buddsoddi mawr yn isadeiledd trafnidiaeth, rhwydweithiau cyfathrebu, ac ynni. Does posib dechrau ar y pethau hyn heb lywodraeth, a phrysur agosau mae’r dyddiad pan fydd angen cyllideb newydd er mwyn gweithredu o gwbl.

Os na chaiff Rajoy, y dyn o Galisia, ei ethol ddydd Gwener, bydd rhaid cael trydydd etholiad, a hynny ar ôl yr amserlen ar y 25ain o Ragfyr.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: