Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 8, 2016

Cloddio Hanes y Cymoedd

Mae Asturias yn fach. Awr yn y car o fan hyn ar yr arfordir i ganol y mynyddoedd. Awr hefyd i gyrraedd cymoedd glofaol canol y dalaith. Yr wythnos hon buom ni ar drip gyda chyfeillion, taith i ardal sy´n gofyn ei chymharu ag ardal maes glo Cymru.

p1190756_1024

Darnau o hanes yw´r tyrrau hyn i bron pawb. Dyma castillete Pwll San Luís, yng nghwm Samuño, sydd erbyn heddiw yn amgueddfa. Er mwyn ei gyrraedd, roeddem ni wedi pasio sawl tref a phentref fu unwaith – a than yn ddiweddar – yn dibynnu ar y pyllau glo i ennill eu bywoliaeth. Pentrefi sydd erbyn hyn yn llawn siopau wedi cau. Un peth sydd yn wahanol yw taw fflatiau sydd yma gan fwyaf; dyna draddodiad trefol Sbaen yn enwedig yn yr 20fed ganrif pan ddechreuodd y diwydiant glo o ddifri.

thumb_p1190759-version-2_1024

logo La Nueva

Mae Pwll San Luis ym mhentref La Nueva (Y Newydd), sy’n enw hefyd ar y cwmni oedd biau’r cadwyn o byllau yr ochr yma i’r cwm. Bu cloddio drifft ar y safle ers 1904, ond ym 1930 yr agorwyd y pwll. Tyfodd y pentref i fod yn gartref i 3000 o bobl, gyda llyfrgell a theatr. Yn ei hanterth roedd 6000 o lowyr ar lyfrau La Nueva, ond fe gaeodd y cwbl yn 2001.

Mewn trên y cyraeddasom ni’r pwll. Yn ystod bywyd gweithiol y cwmni, glo a gariwyd ar hyd y lein o La Nueva i Cadaviu yn nes i lawr y cwm, ond mae’r Ecomuseo wedi cael tren newydd o faint cyffelyb (bach) sy’n cario twristiaid lan drwy’r coed ac yna drwy’r twnel, gyda chymysgedd o synau’r pwll yn chwarae o’n cwmpas: metal ar graig, motor, glo’n cael ei arllwys i dram, caneri.

Wedi cyrraedd yr awyr agored eto, fe’n tywyswyd o gwmpas neuadd y peiriannau mawr, y tŷ newid, a’r tŷ lamp.

thumb_p1190762-version-2_1024

Rhai o docynnau’r sifft olaf yw’r rhain, y fichas oedd yn dangos pwy oedd wedi dod i mewn i’r gwaith a phwy oedd heb ddod lan o’r pwll.

Roedd yr holl beth yn ddiddorol. Byddwn i wedi hoffi cael mwy o hanes y gymuned, gan gofio mai yma yn y cymoedd y dechreuodd nid yn unig Chwyldro Asturias ym 1934 ond Streic Fawr 1962 yn erbyn Franco. A byddaf yn awgrymu i’r amgueddfa eu bod yn rhoi llawer mwy o hanes neu o ddolenni tebyg, ar eu gwefan.

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: