Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 3, 2016

La Rioja 01

Y peth cyntaf sydd rhaid ei wneud wrth gyrraedd ardal gwinllannau a gwindai y Rioja yw ymgynefino å thirlun newydd. Mae talaith La Rioja yng ngogledd Sbaen, sy´n ffinio å Gwlad y Basg. Ac mae´r rhan fwyaf o´r diwydiant gwin o fewn y dalaith honno, gyda nifer llai o bodegas yn nhalaith Alava (la Rioja Alavesa) a llai fyth yn Navarra. I wneud pethau´n fwy cymhleth, mae Alava yn rhan o Euskadi, Comunidad Gwlad y Basg, a dyw Navarra ddim er gwaethaf hanes. Clir?

p1190891

Dyffryn eang sydd gan afon Ebro, 50 km o led ar ei eithaf, ac uchder o 4-500m. Mae Moel Famau ond ychydig yn uwch! (Neu hanner ffordd lan yr Wyddfa os yw hynny´n helpu.) tywydd. pridd gwael, cregog, calchog. Ar un pryd roedd y cwbl o dan y môr ar wahan i ambell fryn sy´n weddill o gyfnod cynharach.

Roedd y daith hon, y tro cyntaf inni fod yno, yn canolbwyntio ar y gogledd, y Rioja Alta, ac oherwydd daearyddiaeth yn croesi nôl a mlaen rhwng  La Rioja ac Alava. Wrth aros yn Haro roeddem ni´n gallu teithio i nifer fawr o bodegas yn hawdd. Yr un oedd y strategaeth ac yn y Bierzo: mynd o far i far, gwneud nodyn o´r gwinoedd oedd yn plesio a gofyn sut i gyrraedd y gwindy. Mae´r strydoedd cul y tu ôl i Plaza de la Paz yn llawn barau gyda dewis da o winoedd a pintxos/pinchos (tapas) amrywiol.

Byddaf yn dod at y bodegas yn y cofnod nesaf, ond byddwn i yn bendant yn cynghori ymwelwyr i fynd i bentref La Guardia, rhwng Haro a Logroño, un o’r pentrefi pen bryn sy’n britho’r dyffryn.

p1190886

Sefydlwyd La Guardia 1000 o flynyddoedd yn ôl, pan oedd breniniaethau Navarra a Castile yn brwydro yn erbyn ei gilydd, a chaer oedd y cwbl i ddechrau. Mae’r bryn yn cuddio rhwydwaith o dwneli a ddefnyddiwyd yn filitaraidd tan y 18fed ganrif, ac wedyn eu troi yn weithdai a stordai gwin. Does dim ceir o fewn y muriau ac mae’r strydoedd yn gul ar yr hen batrwm.

Manylion y gwin pan fyddaf i wedi dibennu gyda´r tomatos sy´n llifo o´r lluarth!

 

 

 

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: