Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 13, 2016

Anthem y Bobl

Roedd clywed Hen Wlad fy Nhadau yn atseinio o gwmpas stadiwm ar ôl stadiwm yn ystod Pencampwriaeth Pêl-Droed Ewrop yr haf yma yn wefreiddiol. Cyn hynny, efallai bod yr hen gân wedi mynd dipyn bach yn ystrydebol, yn swyddogol. Ond yn awr mae wedi ei ailfeddiannu gan y bobl.

Yn Asturias, o fewn y 5 mlynedd diwethaf, mae’r bobl wedi dewis ffordd arall o ddelio ag anthem oedd wedi llugoeri. Cân boblogaidd fu Asturias Patria Querida unwaith, mor boblogaidd fel y cafodd ei dewis yn anthem swyddogol pan sefydlwyd y Gymuned Awtonomaidd yng nghanol yr 80au.

Cân gan gerddor o Gwba, dyn o’r enw Ignacio Piñeiro fu’n flaenllaw ym mynd y rwmba a’r son. Roedd ei dad wedi ymfudo o Astwrias i’r ynys, a’i fam o dras Affricanaidd. Mae’n gân rhamantaidd sy’n sôn am ddringo coeden i pigo blodyn a’r chyflwyno i’r gariadferch ar y balconi. Geiriau na fyddai mewn gwirionedd yn ysbrydoli nac yn corddi neb. (Roedd fersiwn chwyldroadol yn ystod y 30au a Rhyfel Sbaen, ond dwi erioed wedi clywed neb yn ei chanu.)

A phan ddaethom ni yma, dyma fyddai’n cael ei chanu ar ddiwedd fiesta pentrefol: y dawnsio wedi dibennu am 4 neu 5 y bore, a phawb mewn cylch yn canu Asturias Patria Querida. Roedd hi’n sbel cyn imi ddeall taw anthem y dalaith oedd hon.

Ond newid ddaeth, ac anthem answyddogol newydd sydd ar yr hen fynyddoedd hyn. Mae ‘Asturias’ eto’n gân o’r tu fâs, y tro yma gan un o gefndir deheudir Sbaen, Andalusia. Roedd Pedro Garfias eisoes yn llenor cydnabyddedig pan ddechreuodd Rhyfel Sbaen, a bu’n ymladd dros y Weriniaeth. Pan gwympodd Asturias i garfan Franco ym mis Hydref 1937, ysgrifennodd gerdd hir o foliant i’r dalaith, oedd wedi bod yn ysbrydoliaeth i’r chwith ers y Chwyldro dair blynedd ynghynt.

Fe gafodd ei gludo i Mexico ar ddiwedd y rhyfel gyda charcharorion eraill o rengoedd y gweriniaethwyr, ac yno y bu byw a marw. Cadwodd gysylltiad gydag alltudion o Asturias, ac yn aml y byddai’n darllen ei gerdd yn ystod nosweithiau o adloniant. Un a’i glywodd oedd y canwr Victor Manuel, yntau o Asturias. Ac fe wnaeth gymaint o argraff arno iddo fynd ati i roi cerddoriaeth iddi.

a dyma hi: Victor Manuel ei hunan o 1986

Bydd rhaid dychmygu cant o bobl wedi meddwi ar seidr yn canu hon am 5 y bore ar dop eu lleisiau!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: