Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 16, 2016

Lliwiau’r Tir: amryliw

Mae’n ddiwrnod llwyd ym mhobman a gofyn chwilio am oleuni a lliw yn y stordai. Dau beth sydd wedi gwneud yn dda iawn eleni. Y cyntaf yw’r lemwns.

limonero-2016jpg

Llenwais i fasged 15 kilo o’r goeden hon ym mis Hydref. Ac eto ym mis Tachwedd, pan dynnais i’r ffoto hwn. Mae teulu a chyfeillion – a bar y pentre – wedi cael cymaint ag oedden nhw eisiau. Mae dal ffrwyth arni, ond llai o lawer, felly pan ddaw’r stormydd ni fydd yn dioddef gymaint. Mae 2 goeden arall gyda ni, ond hon yw’r seren.

Tarten lemwn, olew lemwn, lemwn wedi ei gadw yn null Moroco – un o’r rysaits cyntaf imi ddodi ar y blog erioed.

Ac edrych ar y lliw, y melyn llachar – ddim yn ddilychwin, dim o gwbl: mae darnau garw a smotiau du. Ond mae’r croen a’r sudd yn well nag unrhyw lemwn siop.

Yn ail, y cnau Ffrengig. 40 kilo eleni, mwy nag erioed o’r blaen a llawer ohonynt yn rhai tew da.

nueces-corredor

Dyma nhw’n sychu ar y corredor bythefnos yn ôl.  Rhan o adeiladwaith traddodiadol tai Asturias yw e, balconi ar gyfer sychu cnau neu ddillad. Fel arfer yn gwynebu’r de. Bydd ffa, ar y llaw arall yn cael eu hongian i’w sychu mewn mannau llai heulog.

Mae rhain erbyn hyn wedi cael dod i mewn i’r stafell sbâr, lle byddan nh’n aros tan fis Mawrth. Erbyn hynny bydd cig y cnau wedi troi o fod yn wlyb i fod yn felys, a dyna pryd mae gwasgu olew

Lliw mêl tu fâs a hufen tu fewn. Po tewa’r cnau, po fwya’r olew. Mae’r gwaith o agor cymaint o gnau yn hir, ond mae werth e am y blas.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: