Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 28, 2016

Deilbridd am ddim

Un o’r pethau hudolus hynny mae garddwyr trefol yn son amdano gyda hiraeth yw deilbridd.

Dau beth sydd eisiau: dail, a lle i’w cadw am flwyddyn neu ragor.

p1190986

Mae cymaint o ddail yn cwympo yn ac o gwmpas ein gardd ni, dyw’r cyntaf ddim yn broblem. Dail y kaki. uchod.  Dail cnau ffrengig, tunelli ohonyn nhw, ac ymysg y cxyntaf i ddisgyn. Dail y coed afalau, hefyd yn domen eithaf mawr pan fyddwch yn cofio bod gyda ni 12 o goed afalau, a hefyd gellyg, eirin a chlesin (cwins). Dail y ffigysbren, yn anferth ac yn teimlo fel lledr pan fon nhw’n las, ond yn pydru’n gynt na dim un arall.

Weithiau bydd cymaint, byddaf yn taenu dail y ffigysbren ar y gwelyau blodau a gadael iddyn nhw ddadwneud eu hunain yn y fan a’r lle. Ond byddaf yn casglu’r gweddill, â rhaca a whilber , ac yn eu cario nhw draw i’r cae.

p1190984

Yno mae gyda fi dau o’r cydau mawr 1m³ maen nhw’n defnyddio i rannu tywod adeiladu. Fedra’i ddim cyfri sawl gwaith bues i nôl a mlaen gyda’r whilber, ond mae’r ddau yn llawn nawr.

Hyd yn hyn rwyf i wedi defnyddio deilbridd blwydd oed ar gyfer gwella pridd yr ardd flodau (sydd yn glaeog), taenu gorchudd i helpu rhag llifogydd/sychder/hirlwm – a gwneud i’r lle edrych yn well ar unwaith pan fydd fisityrs yn dod!

p1190980

Yn y llun yma (ddiwedd tymor i’r hibiscws) mae natur y deilbridd yn amlwg: yn y cornel de-waelod mae peth o’r pridd cyn imi ddodi deilbridd – yn fwy garw, digon o gerrig mân a’r lliw yn oleuach.

Ond os byddaf yn gallu cadw peth am ddwy flynedd, rwy’n darllen y bydd yn bosib ei ddefnyddio ar gyfer hau a phlannu mewn potiau. Dim yn sicr….rwy’n amau bydd hadau chwyn drwyddo…ond gawn ni weld.

 

 

Advertisements

Responses

  1. Diffyg lle ydi’r broblem yma, ond yn sicr yn werth yr ymdrech o hel y dail.
    Y lemons yn edrych yn wych gyda llaw. #cenfigenus!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: