Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 20, 2017

Gardd y Rhyfeddodau

Ganol mis Ionawr, ac mae’r tywydd yn oer, yn heulog a heb ochenaid o wynt. Wythnos ddiwethaf daeth stormydd a glaw mawr. Popeth o fewn 6 diwrnod.

Rhyfeddodau yn y lluarth: neithiwr i swper, ffa llydan ffres. Daeth rhain o blanhigion oedd wedi dod eu hunain rywbryd ar ôl y cynhaeaf ym mis Mehefin. Mae hyn yn digwydd yn aml, ond fel arfer ambell i flodyn yw’r gorau ohoni, dim sôn am ffa o faint arferol ar dy blât.

p1200044

Heno byddwn ni’n bwyta brocoli piws. Mae hwn yn blanhigyn sydd angen blwyddyn i aeddfedu, diolch byth mae gyda ni ddigon o le i adael i’r hunanhadwyd dyfu lle maen nhw’n dewis…fwy neu lai. Dyw brocoli piws y flwyddyn gyfredol ddim yn barod eto, ond mae’r planhigyn ddewisodd ei le â nifer o bennau bach piws.

Rhyfeddodau’r blodau: diolch i’r tirlun a’r garreg galch, mae nifer o lecynnau bach o afael y gwynt a’r glaw, ac yno mae briallu a fioledau yn eu blodau – heb son am yr helianthemum, blodyn yr haul sydd fel arfer yn blodeuo ym mis Gorffennaf.

p1200047

Blodau gwyllt yr ardal yw’r rhain i gydond mae’n dda gen i ddweud bod yr hibiscus, y bougainvillea a’r diascia fach yn dal eu tir os nad yn hapus iawn yn yr oerfel.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: