Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 20, 2017

Cromlechi Dyffryn Ebro

A wyddost ti fod cromlechi yn Sbaen? Dwsenni ohonyn nhw i gyd, o’r de i’r gogledd. Rwy’n dal i chwilio am restr cynhwysfawr. Mae sawl un yn Asturias, y rhan fwyaf tua’r gorllewin, gydag un nodedig yn nhref Cangas de Onis ar odre’r Picos de Europa, ond pan fuom ni am sbel fach yn ardal ogleddol y Rioja – a thros y ffin yn nhalaith Alava – fe’n synnwyd ganddyn nhw. Mae bron bob un ar fryncyn neu grib isel o graig dywodfaen.

20170412_123354

Dolmen (ll. dolmenes) yw’r enw a ddefnyddir yn Sbaeneg, a dyma un o’r enwocaf: Dolmen la Chabola de la Hechicera, Sorginaren Txabola Trikuharria, neu yn Gymraeg Caban y Ddewines. Dyw e ddim yn bell o bentref El Villar, yn agos i’r heol rhwng Haro a Logroño.

Defnyddiwyd dros gyfnod o 2000 o flynyddoedd, hyd at Oes yr Efydd, ac yno fe gladdwyd olion 29 o bobl. Ond roedd hefyd, yn ôl yr arbenigwyr, yn garreg derfyn neu’n arwydd o feddiant i’r tylwyth oedd yn byw yma. Mae’r enw wrth gwrs yn llawr ddiweddarach, ac yn cyfeirio at hen chwedl am wraig oedd yn byw yno rywbryd yn y Canol Oesoedd. Ar godiad gwawr, ar ddygwyl Ioan Sant, byddai hi’n cyhoeddi darogan ar gyfer y flwyddyn i ddod. 24ain o Fehefin yw’r dyddiad, Canol Haf, felly pwy a ŵyr a oedd hi’n glynu at Gristnogaeth neu at yr hen ddefodau.

I ddod: pentref coll La Hoya

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: