Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 27, 2017

Pentref Llosg La Hoya

Ychydig km o gromlech la Chabola de la Hechicera (cofnod cynt) mae olion pentref La Hoya, pentref a losgwyd yn ulw gan ymosodwyr dros 2000 o flynyddoedd yn ôl. Yn ôl y geiriadur, mae dau posibilrwydd i’r enw: naill ai Pant, sydd mor gyffredin yn Gymraeg, neu dir gwastad gyda mynyddoedd naill ochr (pant enfawr, mewn gwirionedd). Yr ail sydd fan hyn ar lan ogleddol Afon Ebro. A’r pwynt yw hyn: fel bydd yn amlwg i’r sawl sydd wedi ymlwybro i ben bryniau lu i weld cestyll cynhanes, ar y tir gwastad mae e, er bod bryn serth o fewn tafliad carreg.

 

Wrth basio tref enwog La Guardia (a sefydlwyd yn ddiweddarach, ac ar ben y bryn), fe welir ar ochr arall yr heol arwydd bach gyda cholofn Rhufeinig wedi’i thorri. Troi fan hyn, ac yn fuan mae arwyddion La Hoya yn ymddangos. Wedyn fe welir maes parcio bach, ac amgueddfa llai fyth sy’n cynnwys rhai o’r creiriau ac arddangosfa o wahanol oesoedd y pentref.

Bron i 4000 o flynyddoedd yn ôl yr ymsefydlodd y bobl gyntaf Geltiberaidd yma i gadw da byw ac i ffermio. Darn o wal allannol yw’r cwbl sydd yn weddill o’r cyfnod cynnar, ond pan aethpwyd ati i gloddio’r mur hwnnw cafwyd cyrn ceirw wedi eu claddu yno o fwriad. Y tŷb yw taw rhywbeth i wneud â chredoau’r bobl ydyn nhw, ac efallai bod yna gysylltiad â’r duw Celtaidd Cernunnos.

Tyfodd y pentref dros y 2000 o flynyddoedd nesaf i fod yn dref o faint sylweddol erbyn rhan olaf Oes yr Haearn, gyda strydoedd eang rhwng tai o gerrig. Adeiladau, dylwn i ddweud, achos o’u maint a’u llun, roedd rhai ohonynt yn siopau ac o leiaf un yn fan gyfarfod neu’n deml. Roedd hefyd mannau agored, efallai i’r da byw, efallai i’r farchnad. Achos y gred yw bod La Hoya wedi ei ddinistrio gan dân ddiwrnod marchnad, gan bobl ddaeth o rywle arall – ond wnaeth ddim gymryd drosodd y safle.

Pan ddechreuwyd ar y gwaith o gloddio modern, h.y. ar ôl amser yr unben Franco, cafwyd hyd i nifer o sgerbydau yn y strydoedd, ond hefyd casgliadau o bethau fel addurniadau personol, a grawn, a nifer o ddarnau carreg wedi eu torri i wneud pwysau graddedig ar gyfer rhyw fath o fantol.

Roeddwn i wastad wedi meddwl am yr ardal hon yn nhermau gwin, ond mae’r gorffennol yn holl-bresennol, ac yn werth chwilio amdano.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: