Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 30, 2017

Troedio’r Grawnwin

Troedio’r ffrwyth, mewn pwll neu faddon, oedd y dull gwreiddiol o wasgu sudd y grawnwin ar gyfer gwneud gwin. Mae e dal i’w weld mewn sawl man o’r byd, fel atyniad i ymwelwyr gan fwyaf – ac yn aml mae cyfle i gymryd rhan. Yn ardal gwinoedd Rioja, ac yn enwedig ar y ffin rhwng talaith La Rioja a thalaith Basgaidd Alava, mae’n bosib gweld enghreifftiau o’r pyllau a ddefnyddid dros ganrifoedd, gan ddechrau 1,000 o flynyddoedd yn ôl.

P1200131

Rhwng mynyddoedd y Sierra Cantabria a chwrs Afon Ebro, mae dwsenni o winllannau, a rhyngddyn nhw mae cefnau o graig tywodfaen yn codi yn llethrau isel 2-3m. Fan hyn roedd cyndeidiau gwinyddiaeth wedi gwneud lagares rupestres,  gwasgfeydd o graig. Bu’n rhaid torri pyllau bas a dwfn, a chamlesi neu bibau agored yn arwain o’r un i’r llall. Weithiau mae modd i’r sudd ymdroelli lawr i waelod y graig, ac efallai i wasg bren er mwyn gorffen y gwaith, dro arall ei gasglu o’r pwll mewn crochenni a wnaed.

P1200134

Daw’r crybwylliad cyntaf ym 1024, mewn rhestr o eiddo mynachdy. Nid fi sydd wedi gwneud yr ymchwil, ond i’r sawl sy’n darllen Sbaeneg bydd y gwaith fan hyn yn ddiddorol iawn, a byddaf yn ei ddyfynnu eto cyn diwedd y cofnod! Mae’n awgrymu, e.e., bod a wnelo lleoliad y lagares rupestres â dymuniad y gwinllanwyr i osgoi talu degwm y sudd i sefydliadau fel mynachdy La Guardia.

Dim ond gyda throad y 18fed ganrif y daeth gwinyddiaeth yn ddiwydiant yn nyffryn yr Ebro, a’r gwasgu yn symud dan do ac o dan reolaeth. Dro nesaf yr af i yno, bydd rhaid imi holi a oes sicrwydd pryd y rhoed y gorau i ddefnyddio’r pyllau yn y graig.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: