Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 7, 2017

Cynaeafu’r Gwymon

Mae’r môr yn bwysig iawn i fywyd y rhan hon o Asturias. Mor bwysig fel bod dwy ffordd o gyfeirio ato: el mar yw’r Sbaeneg safonol, ond mae’r cymdogion sy’n ennill eu bywioliaeth o’r dyfroedd yn sôn am la mar. Mae llai o longau pysgota nag a fu, yn nhrefi bach Lastres, Ribadesella, Llanes a Bustio. Ond maen nhw yno o hyd, a thai bwyta yn ymfalchio yn eu pysgod a bwyd môr ‘de la rula’ , hynny yw, wedi ei brynu o’r ocsiwn ar y cei.

Y môr hefyd sy’n mynd a dod â phobl. Am flynyddoedd bu’r porthladdoedd yn ganolfannau allfudo, pan aeth tlodion o bob ran o Sbaen dros y dŵr i chwilio am fywyd gwell yn yr Amerig. A heddiw mae’n denu ymwelwyr o bob ran o Sbaen, sy’n dianc rhag gwres gormesol haf y meseta, y tirfwrdd uchel eang.

Yn ddiweddar mae gwymon wedi dod yn ariannol bwysig. Hen draddodiad yw ei gasglu – yn farw – o’r traethau a’i sychu cyn ei ddefnyddio i wella tir tyfu llysiau.

20170304_155031

Erbyn hyn mae rhai traethau â thractorau wedi eu parcio yno am fisoedd i bentyrru’r ocle brown. Gelidium sesquipedale yw’r enw Lladin, math o wymon coch sy’n tyfu mewn clystyrau mawr yn agos i’r tir. Yn ôl beth rwyf i wedi darllen, ynysoedd Prydain yw ei derfyn gogleddol; beth bynnag, mae mwy a mwy o alw amdano. Y math hwn o wymon sy’n cael ei droi’n agar (Cymraeg?),  jeli a ddefnyddiwyd am flynyddoedd mewn labordai meicrobywydeg. Heddiw mae’n ddewis cyntaf i lysieuwyr yn lle jelatîn o esgyrn, ac mae galw amdano hefyd o’r diwydiannau prosesu bwyd, gwneud colur, bragu, a gwneud papur.

Mae llywodraeth Asturias newydd benderfynu y caiff llongau dreillio ar gyfer yr ocle, penderfyniad sydd wedi cythruddo’r rhai sy’n ei gasglu o’r traethau yn ardal Llanes, 65km o arfordir i gyd. Nid yn unig maen nhw’n gweld eu bywoliaeth yn diflannu, ond hefyd yn poeni y bydd trellongau’n difrodi’r clystyrau byw ac yn rhoi diwedd ar yr ocle am byth. Y llynedd roedd y cynhaeaf hwn yn hanner miliwn o dunnelli, gwerth €1miliwn.

Ychydig bach i’r gorllwin yn Lastres, mae cynhaeaf cyntaf math arall o wymon newydd gyrraedd y lan. Mae’r kombu melys, Saccharina Latissima, yn cael ei dyfu ar raffau wedi eu clymu at fwi – bydd dros 1000 ohonynt yn y pendraw. Gwymon sy’n cael ei fwyta’n uniongyrchol yw hwn, yn enwedig yng ngwledydd y Dwyrain Pell. Math o kelp (Cymraeg?) yw e, a gogledd Sbaen yw ei derfyn deheuol yn Môr Iwerydd. Mae’n tyfu hyd at 5m o hyd ac yn lliw sinsir.

Mae tipyn mwy na bara lawr a chompost i gael o wymon.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: