Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 6, 2017

Gwymon: yr Aur Coch

Os wyt ti’n mynd i lawr i’r traeth heddiw i ymdrochi, bydd y lle yn llawn o wymon coch yn pydru’n hamddenol, a’r clêr bach yn hofran o gwmpas. Mae’n dymor casglu gwymon.

20170920_154657

Traddodiad oes yw casglu ocle y gelidium, ar gyfer trin tir âr a pherllannau, ac ers dipyn mae marchnad llewyrchus wrth ei werthu i wneuthurwyr agar, gel sy’n cael ei ddefnyddio mewn cant a mil o bethau ond yn arbennig mewn colur a sebon hylif.

Byddai’r tractorau’n dechrau ar y gwaith ym mis Medi. Dyna pryd mae’r gwymon fel y gwair yn dechrau marw ac yn dod i fewn gyda’r llanw. Hefyd, ac yn bwysig, mae’r rhan fwyaf o’r twristiaid wedi mynd adre i Madrid a chanolbarth Sbaen.

P1200241 - Version 2

Ar ôl llusgo’r ocle o’r dŵr, bydd loriau yn mynd ag ef i’w daenu ar wyneb cae i’w sychu, cyn ei werthu mlaen i ffatrioedd lleol neu yn Moroco.

ocle cae Barro

Eleni am y tro cyntaf roedd cychod pysgota yn gallu cael trwydded i gymryd ocle cyn ei fod yn cyrraedd y lan. Bu lot o gonan wrth fois y tractorau, ond yn y diwedd cafodd pawb gymaint ag oedden nhw eisie. Mae’r tymor pysgota ocle ar ben, y deifwyr sy’n tynnu’r gwymon wedi mynd i wneud rhywbeth arall, ond chi’n cael casglu fe o’r traeth drwy’r gaeaf…os bydd trwydded gyda chi.

Gan ein bod ni yn Sbaen lle mae biwrocratiaeth yn rheoli bywyd, roedd cwotas i’r cychod, a swyddogion yn cyrraedd i fesur y llwyth. Y nod yw peidio distrwyo’r coedwigoedd o wymon ar hyd yr arfordir. Ond mse rhai hefyd yn poeni bod tynnu’r ocle, fel y gwna’r deifwyr, yn gwneud hynny beth bynnag, ac ni ddylid cymryd ond yr hyn sydd yn symud yn rhydd yn y môr.

Ac roedd un peth hyfryd iawn eleni: cododd pris y gwymon hyd at €2.50 y kilo, 50% yn uwch na’r arfer. Mae’n edrych fel petai’r farchnad yn tyfu. Bu 28 o gychod allan, a rhwng 2/300 o bobl i gyd yn gweithio ar y cynhaeaf. Ond mae eisie bod yn ofalus: dim ond ar ôl sychu’r cnwd bydd pobl yn gwybod faint sydd gyda nhw! Dyw’r ffatrioedd ddim yn talu am ddŵr yr heli.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: