Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 27, 2017

O’r Ardd, ar ôl Wythnosau

Wedi bod bant am resymau teuluol, daethom yn ôl ychydig ddyddiau’n ôl. Mae’r tyfiant wedi arafu, ond er gwaetha’r diwrnodau byrrach mae wedi bod yn hydref hirfelyn eithaf tesog.

Byddai’n dda gen i gael gwybod gan rywun sy’n deall hinsawdd, ond o beth welaf i mae’r tymhorau’n mynd yn hwyrach yn y flwyddyn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r gwanwyn wedi bod yn oer ac yn wlyb tan o leiaf mis Mai ac weithiau mis Mehefin. ond mae’r hydref fel petai’n para tan y Nadolig.

Ddoe pigais i bron i 2kg o domatos o’r lluarth. Ie, yn yr awyr agored. Roedd y planhigion bron i gyd wedi marw, ond y ffrwyth yn dal yn sgleinio wrth imi neshau. Mountain Magic oedden nhw rhan fwyaf, math o domato sy’n sefyll yn gryf yn erbyn y llwydni. Maen nhw’n fach, felly rwy’n cymryd bod rhywbeth o’r ‘cherry’ ynddyn nhw.

Heddiw, bûm yn hel deilbridd o’r sachau mawr a’i gario at yr halogan (seleri) a’r lwpins, fel gorchudd rhag yr oerfel pan ddaw. Yfory bydd y dalias yn gofyn yr un driniaeth.

Mae moron a bresych a chennin i gael yn y lluarth, fel byddai rhywun yn disgwyl yr adeg yma o’r flwyddyn, ond hefyd corbwmpenni, a hyd yn oed ambell i fefusen. Mara des Bois yw’r rhain, ac mae eu blas yn fy atgoffa o flas syfis, y mefus gwyllt.

Mae’r storfeydd hefyd yn llenwi. Heddiw wnes i gasglu’r cnau Ffrengig, rhyw 20kg ohonyn nhw, oddi ar y corredor (balconi). Maen nhw nawr wedi eu didoli’n rhai tew i wneud olew, a bwyta mewn salad, a rhai llai ar gyfer teisennau. Ac yn cael mynd i gysgu yn y llofft sbâr tra’n bod ni yn symud i’r dasg nesaf.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: