Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 7, 2017

O´r Ardd: Gaeafu

Paratoi ar gyfer y gaeaf oedd gwaith mawr yr wythnos hon. Wedi dweud hynny, y darn mwyaf annisgwyl oedd casglu’r tomatos diwethaf! Dydyn nhw ddim yn goch, ond i gyd yn felyn-oren a byddant yn aeddfedu yn y gegin, efallai gyda chymorth banana.

Gaeafgysgu mae’r planhigion parhaol. Mae’r merllys (asparagws) wedi marw ers sbel o ran tyfiant glas, ond o dan y pridd mae’r gwreiddiau’n aros dyddiau mwynach y gwanwyn. Mae’r rhesi, 6 ohonynt, wedi cael eu chwynnu, gorchudd o gompost cartref, ac yna gwair i’w cadw’n gynnes.

Mae’r mefus wedi ei chael yn well fyth. Prynwyd beilen o wellt iddyn nhw am €1.50, felly straw berries go iawn ydyn nhw nawr.

Codwyd dalias y cae a bydd rhaid eu cadw yn y sied tan y gwanwyn; mae’r tato dan do ers amser a’r ffa yn dal i hongian achos diffyg amser i’w hagor eto. Ac….anadlu.

Barod am y gwaetha felly. Ond gobeithio bydd y gaeaf hwn yr un mor fwyn â llynedd

Advertisements

Responses

  1. “gyda chymorth banana” ??? Beth ydi hwn, tybed? Rhyw tric clyfar gwerth ei ddysgu? 😉

    • Ydy glei! Mae bananas aeddfed yn rhyddhau nwy ethylene, sy’n helpu ffrwythau eraill i aeddfedu yn eu tro. Ac oherwydd hynny, gwell peidio â’u cadw yn y bowlen ffrwythau yn y gegin rhag ofn bod popeth yn pydru.

      • Diolch! Rydyn ni’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd 🙂


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: