Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 25, 2018

Torri Coed a Throi Tir

Mae’r tocio drosodd am flwyddyn arall.

Chwech olewydd, un caci (persimon), dau ddwsin o goed afalau, y gellyg a’r ceirios a’r eirin a’r clesin, i gyd yn sefyll yn daclus yn eu lle. Bydd rhaid penderfynu sut i drin y coed cyll, oedd yno pan brynwyd y cae ac sydd heb eu tocio ers blynyddoedd lawer. Ym mis Mai bydd rhaid dechrau ar y coed sitrig, ond mae digon o amser tan hynny. Ac mae’r pinwydd a’r coed cnau Ffrengig yn iawn heb driniaeth.

Ar ôl y tocio, buom ni’n clirio mieri a mân goedach (llawrwydd ac ynn gan amlaf) sydd wedi hunanhau o gwmpas y rhan greigiog – ac yn rhai o’r gwelyau blodau. Mae tomen y coelcerth yn dalach na fi.

Diolch byth cawsom ni wythnos o dywydd twym a sych; heb hynny fyddem ni ddim wedi gallu gwneud hanner cymaint.

Draw yn y cae mae rhan eithaf mawr, rhyw 5x10m, wedi ei throi, a’r pys a mwy o ffa llydan wedi eu plannu. Mae rhain yn cael egino yn y gegin rhwng tudalenni papur newydd wedi eu gwlychu, dechrau da sydd hefyd yn golygu bod llai yn cael eu bwyta gan lygod.

Ac yng nghanol hyn i gyd roedd fiesta gaeaf y pentre, San Anton, oedd yn golygu gwisgo lan yn draddodiadol a cherdded gyda’r menywod eraill mewn gorymdaith. Lot o hwyl achos mae teuluoedd sy’n byw yn y ddinas yn dod am y penwythnos, a dawnsio tan dri o’r gloch y bore.

Bore ma es i lan i dŷ cymdogion i hôl orennau chwerw> mae’n dymor marmalêd!

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

w

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: